Mater - cyfarfodydd
Supplementary Financial Information to Draft Statement of Accounts 2016/17
Cyfarfod: 19/07/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 19)
19 Gwybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad o Gyfrifon Drafft 2016/17 PDF 99 KB
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth i fynd gyda’r Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2016/17 er gwybodaeth i Aelodau, ac yn dilyn gofynion rhybudd o gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor 29 Ionawr 2013.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth ariannol atodol i gyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2016/17, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn 2013.
Roedd y wybodaeth yngl?n â swyddi a oedd yn benodiadau dros dro’n dangos y symiau a dalwyd i sefydliadau am drefniadau o’r fath ac nid oedd yn adlewyrchu cyflogau’r rhai dan sylw. Roedd y gost am ymgynghorwyr a swyddi nad oeddent yn rhai parhaol ar draws y Cyngor yn cynnwys costau blynyddol damcaniaethol pe bai’r unigolion wedi’u cyflogi am y flwyddyn gyfan, yn ogystal â’r costau gwirioneddol a ysgwyddid.
Mewn perthynas â’r ail o’r rheini, eglurodd y Prif Weithredwr fod y rhain yn wasanaethau arbenigol na ellid sicrhau'r gallu i'w cyflawni o fewn y sefydliad.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.