Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 10)

10 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried, cyfeiriodd yr Hwylusydd at awgrym yn y cyfarfod blaenorol am weithdy ar y ddarpariaeth ôl-16 a oedd wedi ei threfnu ar gyfer ar ôl cyfarfod mis Medi. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts am wahodd aelodau Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy i’r gweithdy.

 

Siaradodd y Cynghorydd Kevin Hughes am bwysigrwydd mynd i’r afael â thlodi’r mislif oherwydd pryderon ynghylch nifer y merched ifainc nad ydynt yn gallu fforddio cynnyrch hylendid. Dywedodd ei bod yn hanfodol bod ysgolion yn cynnig cymorth trwy gadw cyflenwad am ddim ac yn penodi pwynt cyswllt benywaidd. Aeth ati i gyfeirio at arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem hon ac i wella cyfleusterau mewn ysgolion.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog Dros Dro y mater cenedlaethol hwn a oedd hefyd yn effeithio ar ffigyrau presenoldeb ysgolion ac eglurodd fod gr?p llywio wedi ei sefydlu i adolygu a ffurfioli trefniadau mewn ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint y mae gan bob un gyflenwad o gynnyrch ar gael. Roedd ystod o weithgareddau’n cael eu gweithredu yn cynnwys datblygu mecanwaith adrodd corfforaethol (ar y cyd â’r tîm Cyfranogiad Ieuenctid) i sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu’n gywir a bod y Cyngor Ieuenctid yn cael ei gynnwys er mwyn helpu i hyrwyddo’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael. Er mwyn gwneud y gorau o’r arian grant, roedd opsiynau eraill yn cael eu trafod â gwneuthurwyr cynnyrch ac awdurdodau cyfagos i gael gwerth am arian.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r Cynghorydd Hughes am grybwyll y pwnc ac i’r Cyngor am bennu camau gweithredu.

 

Yn dilyn ymholiad gan David Hÿtch, dywedodd yr Hwylusydd fod yr adroddiadau gwybodaeth am losgi, fandaliaeth a lladrata yn Sir y Fflint yn cael eu trin gan y swyddog perthnasol.

Awgrymodd y Cynghorydd Roberts i’r diweddariad cynnydd blynyddol nesaf gan GwE fod yn eitem ar wahân mewn cyfarfod arbennig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r dyfodol fel y’i haddaswyd; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, wrth Ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng y cyfarfodydd, yn ôl yr angen.