Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Corporate Resources)
Cyfarfod: 19/04/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 85)
85 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB
Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y Rhaglen Waith i’r Dyfodol a oedd wedi’i hadolygu a’i diwygio yn y sesiwn anffurfiol cyn y cyfarfod. Dywedodd y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu cyflwyno i’w hystyried hefyd:
· adroddiad ariannol ar gyfalaf i gyfarfod y Pwyllgor ar 17 Mai
· adroddiad ar fuddsoddiadau mewn trefi sirol ynghyd ag adroddiad ar fodelu tâl i gyfarfod y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 14 Mehefin.
Cytunwyd i gymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y’i diwygiwyd yn y sesiwn anffurfiol yn gynharach yn y dydd, ynghyd â’r eitemau ychwanegol uchod. Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr Aelodau y byddid yn cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ar Fehefin 4 i ystyried adborth ar Gynllun y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd yn y sesiwn anffurfiol yn gynharach yn y dydd;
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democratig, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, yn cael eu hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng y cyfarfodydd, pe bai angen gwneud hyn; ac
(c) Y bydd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol yn cael ei hystyried ar ddechrau, yn hytrach nag ar ddiwedd cyfarfodydd o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn y dyfodol.