Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Community & Enterprise)
Cyfarfod: 14/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 56)
56 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol er mwyn ei hystyried. Cynghorodd bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei phoblogi ar gyfer y flwyddyn i ddod yn dilyn cymeradwyaeth i gyflwyno dyddiadur o gyfarfodydd pwyllgor i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Sir ym mis Mai.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton i adroddiad ar dlodi bwyd i gael ei gyflwyno mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bod adroddiad diweddaru ar y safleoedd garej yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.
Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad ar ran y Pwyllgor i Clare Budden am yr effaith gadarnhaol y mae hi wedi'i gael ar dai yn Sir y Fflint ac am ei chefnogaeth a'i gwaith yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter. Fe ddymunodd pob llwyddiant iddi yn ei swydd newydd gyda Chymdeithas Dai Pennaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.