Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 20/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 40)
40 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i’w hystyried, dywedodd yr Hwylusydd y byddai eitem ychwanegol yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2018 ar ganlyniadau’r adroddiad Archwilio ar gyfer rheoli’r gofrestr dai a dyraniadau. Ni wnaethpwyd unrhyw newidiadau pellach i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.