Mater - cyfarfodydd

Update on the Integrated Transport Unit Procurement Project

Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 32)

32 Y diweddaraf ar yr Uned Gludiant Integredig / Prosiect Caffael pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y broses o gaffael cludiant ysgol ac yn nodi’r prif newidiadau yn y ddarpariaeth gludiant oedd i’w cyflwyno o fis Medi 2017 ymlaen.

 

                        Roedd cam cyntaf y broses gaffael wedi’i gwblhau gyda 47 o gyflenwyr wedi pasio’r cam cyn-gymhwyso.  Roedd yr ail gam yn dechrau ar 11 Mehefin drwy roi gwybodaeth am y llwybrau cludo i’r holl gyflenwyr a fyddai yna’n cael eu gwahodd i brisio pob llwybr, ar sail cyfradd y filltir, ac i ddarparu cyfradd y filltir am bob categori cerbyd sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth mewn ardal neilltuol.  Byddai’r trefniadau caffael newydd yn creu’r arbedion sydd mewn golwg ar gyfer y gwasanaeth.

 

                        Gellir darparu cludiant drwy wasanaeth cludiant contract ysgol neu gyda’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus presennol a fyddai, ynghyd â’r math o gludiant, yn dibynnu ar ba mor gost-effeithiol ydynt.  Mewn rhai achosion gallai un bws contract gludo gwahanol ddisgyblion i fwy nag un safle ysgol.  Mae’r cludiant fel arfer i ac o arosfannau bws neu bwyntiau codi ar gyfer grwpiau o ddisgyblion, ac o ddrws i ddrws dim ond mewn amgylchiadau eithriadol.  Byddai’r pellter mwyaf y byddai disgwyl i ddisgybl gerdded i ac o’r pwyntiau codi’n dibynnu ar oed, anghenion yr unigolyn a natur y llwybr y byddai disgwyl iddynt gerdded ar ei hyd.  Roedd y pwyntiau codi a gollwng, a’r amser codi, yn cael eu hadolygu. Fodd bynnag, byddai’r polisi presennol yn cael ei ddilyn oni bai mewn amgylchiadau eithriadol.

 

                        Canmolodd y Cynghorydd Attridge y tîm a’u gwaith ar y prosiect, oedd yn enghraifft dda o weithio gyda phartneriaid busnes.  Roedd hefyd meddai’n gwerthfawrogi’r contractwyr a fu’n rhan o’r broses.  Cytunodd y Prif Weithredwr â sylwadau’r Cynghorydd Attridge gan ychwanegu fod hyn yn dystiolaeth o dimau’n gweithio gyda’i gilydd i reoli’r farchnad fasnachol yn well a chreu arbedion.  Diolchodd i’r tîm hefyd am ganlyniad llwyddiannus y prosiect.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi effaith debygol y broses o gaffael Cludiant Ysgolion fel y nodwyd yn yr adroddiad.