Mater - cyfarfodydd

Annual Report by Members

Cyfarfod: 03/07/2017 - Pwyllgor Safonau (eitem 15)

15 Adroddiad Blynyddol gan Aelodau pdf icon PDF 65 KB

I Ddiweddaru'r Pwyllgor ar yr Adroddiad Blynyddol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn darparu manylion o gyfarfodydd blaenorol lle y trafodwyd adroddiadau blynyddol gan Aelodau.

 

                        Ym mis Mai 2016, penderfynodd y Pwyllgor Safonau "Y cysylltir ag Aelodau ym mis Mai bob blwyddyn gyda thempled o adroddiad blynyddol ac y dylid eu cynghori y byddai unrhyw adroddiadau yn cael eu rhoi ar wefan y Cyngor gan y Gwasanaethau Democrataidd".   Yn dilyn yr etholiadau lleol, ac yn unol â'r cofnod hwnnw, roedd yn briodol atgoffa'r Aelodau o'r weithdrefn honno yn awr.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd yn ofynnol bod Aelodau yn cynhyrchu adroddiad blynyddol, ond roedd yn ofynnol bod y Cyngor yn eu cyhoeddi ar y wefan os oeddent yn cael eu cynhyrchu.   Ychwanegodd fod nifer o Aelodau yn cynhyrchu newyddlenni helaeth ac felly efallai nad oeddent yn dymuno cynhyrchu adroddiad blynyddol .

 

                        Yn dilyn trafodaeth cydnabu'r Pwyllgor fanteision cyfryngau cymdeithasol pe baent yn cael eu defnyddio'n briodol ac fe gytunwyd y byddai canllaw CLlLC ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid cynghori'r holl Aelodau o'r gweithdrefnau ar gyfer ysgrifennu adroddiadau blynyddol; a

 

(b)       Bod canllawiau CLlLC ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau.