Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy Update

Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 19)

19 Diweddariad Strategaeth Ariannol tymor Canolig pdf icon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad oedd yn nodi’r rhagolygon ariannol am 2018/19 fel rhan o ddiwygio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

Roedd y rhagolygon gwreiddiol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19, y drydedd flwyddyn a blwyddyn olaf y MTFS bresennol, yn dangos ‘bwlch’ tebygol rhwng y cyfanswm gwario angenrheidiol a’r incwm disgwyliedig o £6.2m.  Ar ôl diystyru unrhyw fodelu ar gyfer cynnydd yn Nhreth y Cyngor, byddai’r bwlch disgwyliedig yn sefyll ar £8.5m fel ffigur gwirioneddol.  Roedd y rhagolygon wedi’u diwygio a’u diweddaru’n dilyn penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, ar ôl derbyn gwybodaeth fwy diweddar am bwysau gweithlu, lleol a chenedlaethol, a’r rhagolygon diweddaraf ar gyfer chwyddiant.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon diwygiedig yn dangos ‘bwlch’ disgwyliedig o £11.7m cyn unrhyw fodelu ar gyfer cynnydd yn Nhreth y Cyngor. 

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod gweithdy mewnol i’r Aelodau’n cael ei gynnal ar y MTFS nes ymlaen y diwrnod hwnnw.

 

Lleisiodd y Cynghorydd Shotton ei bryder pe bai’r toriadau sylweddol blaenorol yn digwydd eto y byddai hyn yn cael effaith fwy negyddol fyth ar grant bloc Cymru gan Lywodraeth y DU.  Pe bai hynny’n digwydd ni fyddai’n bosib cael cyllideb gytbwys heb i’r awdurdod wneud penderfyniadau anodd iawn.  Y dybiaeth oedd mai setliad ‘fflat’ oedd i ddod ond byddai’r Cyngor yn parhau i lobio am setliad gwell.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr nad oedd setliad ‘fflat’ yn ystyried pethau fel chwyddiant a dyfarniadau cyflog.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu’r fframwaith ar gyfer diwygio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer 2018/19 a derbyn y rhagolygon fel cam cyntaf.