Mater - cyfarfodydd

Reappointment of Town and Coummunity Council Representative

Cyfarfod: 03/07/2017 - Pwyllgor Safonau (eitem 13)

13 Ail benodi Cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned pdf icon PDF 72 KB

I adrodd ar unrhyw arsylwadau ar ail benodi’r Cynghorydd Duggan-Keen

 

Cofnodion:

Eglurodd y Swyddog Monitro bod adroddiad wedi'i gyflwyno i Gyfarfod Blynyddol y Cyngor yn argymell bod y Cynghorydd Duggan-Keen, cynrychiolydd presennol Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau, yn cael ei ail-benodi am dymor pellach a oedd wedi'i gytuno.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Johnson am fanylion y broses o enwebu cynrychiolwyr ar gyfer y rôl.    Eglurodd y Swyddog Monitro ei fod wedi ymgynghori â'r Cynghorau Tref a Chymuned yn gofyn am eu harsylwadau ar ail-benodi'r Cynghorydd Duggan-Keen neu a oedd ganddynt enwebiadau amgen i'w cynnig.   Dim ond dau ymateb a gafwyd, ac nid oedd yr un o'r ddau yn wrthwynebiadau i'r ailbenodiad. 

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn pellach, eglurodd y Swyddog Monitro mai tymor y penodiad oedd 5 mlynedd ac erbyn hynny byddai'r Cynghorydd Duggan-Keen wedi gwasanaethu'r nifer uchaf posibl o gyfnodau yn y swydd.  Yn dilyn y drafodaeth, cytunwyd y byddai'r Swyddog Monitro yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i egluro'r anawsterau a wynebwyd gan fod angen dechrau'r broses recriwtio cyn yr etholiad nesaf heb wybod pwy fyddai'n cael eu hethol.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi nad oedd unrhyw Gyngor Tref neu Gymuned yn gwrthwynebu ailbenodiad y Cynghorydd Duggan-Keen;

 

(b)       Bod y Swyddog Monitro yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr anawsterau gydag amseru'r broses recriwtio; a

 

(b)       Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor Sir ym mis Medi gan argymell bod y Cynghorydd Duggan-Keen yn cael ei ailbenodi am dymor arall.