Mater - cyfarfodydd
Reappointment of Town and Coummunity Council Representative
Cyfarfod: 03/07/2017 - Pwyllgor Safonau (eitem 13)
13 Ail benodi Cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned PDF 72 KB
I adrodd ar unrhyw arsylwadau ar ail benodi’r Cynghorydd Duggan-Keen
Cofnodion:
Eglurodd y Swyddog Monitro bod adroddiad wedi'i gyflwyno i Gyfarfod Blynyddol y Cyngor yn argymell bod y Cynghorydd Duggan-Keen, cynrychiolydd presennol Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau, yn cael ei ail-benodi am dymor pellach a oedd wedi'i gytuno.
Gofynnodd y Cynghorydd Johnson am fanylion y broses o enwebu cynrychiolwyr ar gyfer y rôl. Eglurodd y Swyddog Monitro ei fod wedi ymgynghori â'r Cynghorau Tref a Chymuned yn gofyn am eu harsylwadau ar ail-benodi'r Cynghorydd Duggan-Keen neu a oedd ganddynt enwebiadau amgen i'w cynnig. Dim ond dau ymateb a gafwyd, ac nid oedd yr un o'r ddau yn wrthwynebiadau i'r ailbenodiad.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach, eglurodd y Swyddog Monitro mai tymor y penodiad oedd 5 mlynedd ac erbyn hynny byddai'r Cynghorydd Duggan-Keen wedi gwasanaethu'r nifer uchaf posibl o gyfnodau yn y swydd. Yn dilyn y drafodaeth, cytunwyd y byddai'r Swyddog Monitro yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i egluro'r anawsterau a wynebwyd gan fod angen dechrau'r broses recriwtio cyn yr etholiad nesaf heb wybod pwy fyddai'n cael eu hethol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi nad oedd unrhyw Gyngor Tref neu Gymuned yn gwrthwynebu ailbenodiad y Cynghorydd Duggan-Keen;
(b) Bod y Swyddog Monitro yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr anawsterau gydag amseru'r broses recriwtio; a
(b) Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor Sir ym mis Medi gan argymell bod y Cynghorydd Duggan-Keen yn cael ei ailbenodi am dymor arall.