Mater - cyfarfodydd

Capital Programme 2016/17 (Outturn)

Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 23)

23 Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Alldro) pdf icon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad hwn oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn chwarter olaf 2016/17 a welodd gynnydd net o £4.848m dros y cyfnod hwnnw.

 

                        Y ffigur terfynol gwirioneddol oedd £63.493m.  Yr adnoddau oedd ar gael yn bresennol i gyllido gwariant cyfalaf yn y dyfodol oedd £5.066m – byddai angen hwn i gyd i gyllido cynlluniau cyfalaf o 2017/18 ymlaen.

 

                        Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y gwariant cyfalaf mewn cymhariaeth â’r gyllideb; yr arian a gariwyd drosodd i 2017/18; dyraniadau ychwanegol; arbedion; ariannu; a chyllid ar gyfer cynlluniau cymeradwy yn 2016/17.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad yn gyffredinol; a

 

(b)       Cymeradwyo’r addasiadau a gariwyd drosodd yn yr adroddiad.