Mater - cyfarfodydd
Capital Programme 2016/17 (Outturn)
Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 23)
23 Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Alldro) PDF 148 KB
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme 2016/17 (Outturn), eitem 23 PDF 90 KB
- Enc. 2 for Capital Programme 2016/17 (Outturn), eitem 23 PDF 122 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad hwn oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn chwarter olaf 2016/17 a welodd gynnydd net o £4.848m dros y cyfnod hwnnw.
Y ffigur terfynol gwirioneddol oedd £63.493m. Yr adnoddau oedd ar gael yn bresennol i gyllido gwariant cyfalaf yn y dyfodol oedd £5.066m – byddai angen hwn i gyd i gyllido cynlluniau cyfalaf o 2017/18 ymlaen.
Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y gwariant cyfalaf mewn cymhariaeth â’r gyllideb; yr arian a gariwyd drosodd i 2017/18; dyraniadau ychwanegol; arbedion; ariannu; a chyllid ar gyfer cynlluniau cymeradwy yn 2016/17.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad yn gyffredinol; a
(b) Cymeradwyo’r addasiadau a gariwyd drosodd yn yr adroddiad.