Mater - cyfarfodydd

Flintshire Early Help Hub

Cyfarfod: 20/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 13)

13 Canolfan Ymyrraeth Gynnar a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:Rhoi diweddariad ar drefniadau amlasiantaeth newydd ar gyfer ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adroddiad er mwyn diweddaru ar drefniadau aml-asiantaeth newydd ar gyfer ymyrraeth gynnar er mwyn mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac amlinellodd brif fwriad y Canolbwynt Cymorth Cynnar sef darparu’r lefel uchaf o wybodaeth a dadansoddi cudd-wybodaeth a gwybodaeth ar draws y bartneriaeth aml-asiantaeth er mwyn sicrhau fod plant, pobl ifanc a theuluoedd â mynediad at gyngor  a gwybodaeth am gymorth cynnar perthnasol er mwyn adeiladu sgiliau ymdopi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyn iddynt waethygu.  Ar gyfer teuluoedd lle mae risg uwch o broblemau cynyddol, roedd mynediad at ymyraethau amlddisgyblaethol yn flaenoriaeth.  Eglurodd yr Uwch Reolwr nad oedd y Canolbwynt Cymorth Cynnar yn disodli’r cymorth ymyrraeth gynnar safonol oedd eisoes yn ei le ar draws Sir y Fflint ac roedd y Canolbwynt Cymorth Cynnar yn targedu teuluoedd gyda 2 neu fwy o Brofiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod. 

 

                        Dywedodd yr Uwch Reolwr fod y Canolbwynt wedi cychwyn gyda “lansiad meddal” ar 30 Mehefin 2017 ac yn ymateb i atgyfeiriadau presennol gan asiantaethau partner. Bydd lansiad llawn yn cael ei gynnal yn ystod Hydref 2017 wedi seminarau gwybodaeth ehangach. Bwriedir cynnal ymarfer hunan werthuso gyda phartneriaid allanol mewn 12 mis er mwyn asesu canlyniadau.

 

                        Wrth ymateb i gwestiynau a ofynnwyd, eglurodd yr Uwch Reolwr y byddai’r gwasanaeth ar gael i Sir y Fflint i gyd. Ymatebodd hefyd i’r cwestiynau pellach yngl?n â materion amddiffyn a diogelu plant.

 

                        Diolchodd yr Aelodau i’r Uwch Reolwr a’i dîm am y gwaith caled a'r ymrwymiad â wnaed i sefydlu’r Canolbwynt Cymorth Cynnar.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod y Pwyllgor yn croesawu datblygiad y Canolbwynt Cymorth Cynnar ac yn cefnogi’r cynigion; a

 

 (b)      Fod diweddariad ar y cynnydd yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.