Mater - cyfarfodydd

055310 - Appeal by Mr. McCarthy Against the Decision of Flintshire County Council to Refuse Planning Permission for the Erectin of 24 No. Dwellings with Associated Garages, Parking, Garden Areas and Open Spaces with Demolition of Existing Service Sta

Cyfarfod: 28/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 13)

13 055310 - Apêl gan Elan Homes Ltd yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod rhoi caniatâd cynllunio i godi 24 annedd a garejys cysylltiedig, creu maes parcio, gerddi a mannau agored a dymchwel yr orsaf wasanaeth bresennol a thai allan yng Ngorsaf Wasanaeth Argoed, Priffordd, New Brighton - WEDI'I GANIATÁU. pdf icon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Mike Peers fod y Pwyllgor wedi gwrthod y cais hwn yn unfrydol a chyfeiriodd at y cyngor a roddwyd yn flaenorol yn 2010 gan y Swyddog Cynllunio fod angen tai fforddiadwy ar y safle, ond yn hytrach na’u rhoi ar y safle dylid defnyddio’r arian ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle.Fodd bynnag, rodd yr Arolygydd wedi nodi nad oedd hyn yn cyd-fynd â’r Cynllun Datblygu a fabwysiadwyd felly nid oedd angen ymrwymiad o’r datblygiad apêl.

 

            Gwnaeth sylwadau hefyd am adroddiad yr Arolygydd, ond cwestiynodd y sylwadau yn yr adroddiad a oedd yn nodi na ddarparwyd unrhyw dystiolaeth a dywedodd fod tystiolaeth wedi ei darparu ar ran y Pwyllgor Cynllunio. Cwestiynodd sylwadau’r Arolygydd ynghylch cymeriad y datblygiad a darpariaeth tai fforddiadwy.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penderfyniad yr Arolygydd i ganiatáu’r apêl hon.