Mater - cyfarfodydd
Active Travel Plan
Cyfarfod: 11/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 16)
16 Cynllun Teithio Llesol PDF 83 KB
Diweddaru’r Pwyllgor cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar y Cynllun Teithio Llesol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad i amlinellu cefndir y cynigion ar y drafft o Fap Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol a manylion rhaglen yr ymgynghoriad cyhoeddus. Rhoddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ddyletswydd ar gynghorau i fodloni gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Yn rhan o’r rhwymedigaethau hyn, mae mapiau llwybrau teithio llesol presennol y Cyngor wedi’u cymeradwyo gan LlC o fewn y terfyn amser.
Dangosodd Swyddog Polisi Priffyrdd sut i fynd at ddogfennau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Map Rhwydwaith Integredig (MRhI) drwy’r ddolen ar wefan y Cyngor. Byddai’r MRhI yn cynnwys cynigion i wella’r isadeiledd ar gyfer cerddwyr a beicwyr i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau ar draws y sir yn ogystal â chynnig darpariaeth hamdden. Roedd y cynigion (yr oedd rhai ohonynt yn destun cytundebau pellach) wedi’u dangos ar chwe map o wahanol ardaloedd anheddol ynghyd â map trosolwg o’r sir. Roedd y wefan hefyd yn cynnwys manylion am sesiynau galw heibio'r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd disgwyl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 24 Medi 2017, pan fyddai’r holl ymatebion yn cael eu hystyried er mwyn gallu cyflwyno’r MRhI terfynol i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo erbyn 3 Tachwedd 2017.
Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai teithio llesol yn ategu datblygiadau cynllunio a bod yr ardaloedd anheddol gwreiddiol a oedd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru wedi'u hehangu i ystyried 'pob llwybr sydd â phwrpas'.
Soniodd y Cynghorydd Cindy Hinds am annog rhieni i gerdded gyda’u plant i’r ysgol er mwyn caniatáu mwy o le parcio y tu allan i ysgol. Teimlai’r Cynghorydd Richard Lloyd, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus, fod lled pafinau a gwrychoedd rhy fawr yn broblem mewn rhai ardaloedd. Cyfeiriodd Swyddog Polisi Priffyrdd at ddolen a e-bostiwyd yn ddiweddar at yr aelodau yngl?n â gwaith roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i bartneriaid yn ei wneud mewn perthynas â hyn. Dywedodd fod rhai o’r cynigion yn cynnwys mapiau llwybrau presennol ac y gellid gwneud cynigion am gyllid ar gyfer cynlluniau diogelwch. Unwaith y byddai’r MRhI wedi’i gymeradwyo, byddai’r Cyngor yn gweithio gyda sefydliadau eraill i fanteisio ar ffynonellau cyllid a oedd ar gael.
Mewn perthynas â diogelwch ffyrdd y tu allan i ysgolion, gofynnwyd i aelodau ddod â meysydd sy'n peri pryder at sylw swyddogion. Roedd y Cyngor wedi llwyddo i ddiogelu cyllid ar gyfer tri chynllun i ostwng nifer y ceir a oedd yn parcio y tu allan i'r ysgol ac roedd yn croesawu cyfleoedd i ehangu hyn i ardaloedd eraill. Cydnabu’r Cynghorwyr Chris Bithell a Paul Shotton gynnydd mewn perthynas ag ymgynghori ar gynlluniau arfaethedig yn eu wardiau nhw.
Eglurodd y Prif Swyddog fod LlC wedi darparu swm cyfyngedig o gyllid i gynghorau er mwyn bodloni gofynion teithio llesol. Roedd yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn cael cyllid grantiau i gwblhau'r cynlluniau.
Galwodd y Cynghorydd Owen Thomas am ladd gwair yn amlach ar hyd ffyrdd er mwyn i feicwyr allu gweld yn well ac i atal damweiniau. Dywedodd y Prif Swyddog fod adroddiad at y dyfodol wedi’i drefnu ar ... view the full Cofnodion text for item 16