Mater - cyfarfodydd

Flintshire Public Services Board and the Well-being of Future Generations Act (Wales) 2015

Cyfarfod: 20/06/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 24)

24 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas: Mabwysiadu amcanion lles y Cyngor a diweddariad ar gynnydd gwaith Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu adroddiad a oedd yn gofyn i Aelodau’r Cyngor newydd nodi’r dyletswyddau deddfwriaethol statudol ac ail-fabwysiadu Amcanion Llesiant y Cyngor (ar ôl eu mabwysiadu'n flaenorol cyn pen y terfyn amser statudol) ar gyfer adolygiad yn y dyfodol.

 

Cafwyd cyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Trosolwg

·         Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

·         Asesiad o Les

·         Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint

·         Rolau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac Awdurdodau Lleol

·         Themâu Blaenoriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint – Hen a Newydd

·         Strategaeth y Dyfodol – Cynllun Llesiant

·         Amcanion Lles y Cyngor

 

Rhannwyd gwybodaeth gefndirol am y saith nod lles a oedd yn sylfaen i’r Ddeddf a fyddai’n cael eu cyflawni drwy weithio mewn partneriaeth.  Byddai Asesiad Llesiant y Cyngor yn help i fod yn sail i flaenoriaethau a gynhwysir yn y cynllun llesiant – a ddisgrifiwyd fel strategaeth bartneriaeth – a byddai angen ei chyhoeddi erbyn mis Mai 2018.

 

Roedd y cyrff statudol a’r cynrychiolwyr gwirfoddol sy’n ffurfio aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gwneud cynnydd da ar weithio mewn partneriaeth.  Cytunodd y Prif Weithredwr gyflwyno awgrym blaenorol y Cynghorydd Hilary McGuill sef cynnwys cynrychiolydd Cyngor yr Ifanc unwaith y bydd wedi’i sefydlu.  Cytunodd hefyd argymell y dylid cael cynrychiolydd busnes lleol, fel yr awgrymwyd gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Aelodau’n nodi’r dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chydnabod rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w cyflawni; a

 

 (b)      Bod yr Amcanion Llesiant a gyflwynwyd yn y Pwyllgor Arolygu a Chraffu Cabinet ac Adnoddau Corfforaethol blaenorol yn cael eu hail-fabwysiadu.