Mater - cyfarfodydd
Annual Review of Strategic Risks
Cyfarfod: 12/06/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 8)
8 Adolygiad Blynyddol o Risgiau Strategol PDF 105 KB
Pwrpas: Cefnogi’r dull a ddefnyddir i reoli risg a sut y caiff risgiau presennol eu rheoli.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddatganiad sefyllfa ar risgiau strategol a gynhwysir o fewn Cynllun Gwella 2016/17 y Cyngor. Roedd adroddiad ar alldro terfynol i'w ystyried gan y Cabinet. Rôl y Pwyllgor Archwilio oedd sicrhau bod y dull cadarn o reoli risgiau tra’r oedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn herio’r adroddiadau cynnydd chwarterol.
Darparodd y Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol gadarnhad ar y tabl cryno yn yr adroddiad a oedd yn adnabod statws risgiau o’r asesiad cychwynnol ar ddiwedd sefyllfa’r flwyddyn. Dywedodd bod y risgiau sylweddol (coch) yn cael eu cynnwys yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2017/18.
Dywedodd y Cynghorydd Dolphin nad oedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael gwybodaeth ar holl feysydd o risg. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet wedi cyfeirio at faterion o risg i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a bod Aelodau o’r Pwyllgorau hynny yn gallu gwneud cais am bynciau penodol i’w cynnwys ar y Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod y gwaith ar y trywydd iawn gyda’r Cynllun Gwella drafft 2017/18 i’w adrodd i’r Cabinet ym mis Gorffennaf 2017.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r statws ar gyfer y crynodeb diwedd flwyddyn 2016/17 o’r risgiau strategol o’r blaenoriaethau gwella y Cyngor; gan orfodi rheolaeth llwyddiannus o’r risgiau.