Mater - cyfarfodydd
External Regulation Assurance
Cyfarfod: 12/06/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 7)
7 Sicrwydd Rheoleiddio Allanol PDF 75 KB
Pwrpas: Cefnogi’r crynodeb o’r holl adroddiadau rheoleiddio allanol a dderbyniwyd yn ystod 2015/16 ynghyd ag ymateb y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad cryno i roi sicrwydd bod adroddiadau gan reoleiddwyr allanol ac arolygwyr yn 2016/17 wedi bod yn destun ystyriaeth gan bwyllgorau perthnasol a chamau gweithredu wedi’u cymryd mewn ymateb i’r argymhellion.
Atgoffawyd y Pwyllgor o’r protocol mewnol sydd mewn lle ar gyfer holl adroddiadau terfynol lleol sy’n ymwneud ag ymateb y Cabinet, yn cael ei herio gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor Archwilio. Dangosodd y trosolwg o’r adroddiadau yn 2016/17 statws Gwyrdd drwyddi draw ac wedi cynnwys rhai argymhellion generig ar adroddiadau cenedlaethol a oedd yn berthnasol i bob un o’r 22 cyngor yng Nghymru.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi sut mae adroddiadau gan archwilwyr allanol, rheoleiddwyr eraill ac arolygwyr wedi cael eu delio ag hwy yn ystod 2016/17.