Mater - cyfarfodydd
Annual Governance Statement 2016/17
Cyfarfod: 12/06/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 6)
6 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016/17 PDF 79 KB
Pwrpas: Cefnogi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2016/17.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Datganiad Llywodraeth Blynyddol (AGS) drafft ar gyfer 2016/17 i’w ystyried a’i argymell i'r Cyngor Sir i fynd gyda’r Datganiad Cyfrifon. Atgoffodd o'r gofyniad blynyddol i gynhyrchu'r AGS yn dilyn adolygiad manwl a hunanasesiad llywodraethu corfforaethol lle cafodd herio cadarn ei ddefnyddio. Wrth osod y dull i baratoi AGS, tynnwyd sylw at y camau gweithredu ar faterion strategol llywodraeth a gwasanaeth penodol yn 2015/16.
I ymateb i sylwadau gan Sally Ellis ar wendidau a nodwyd mewn adroddiadau eraill, eglurodd y Prif Weithredwr bod y materion strategol sy’n berthnasol i ardaloedd Cynllun Gwella. Ac er bod materion megis Cytundebau Adran 106 yn bwysig fel risg parhaus, dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro nad oedd y rhain yn lefel arwyddocaol i’w cynnwys yn yr AGS a byddai’n cael ei ddelio drwy weithredu olrhain.
Atgoffodd Matthew Edwards o Swyddfa Archwilio Cymru y byddai ystyriaeth o gynnwys a fformat yr AGS yn ffurfio rhan o waith y Swyddfa Archwilio Cymru ar yr archwiliad o ddatganiadau ariannol a byddai’n cael eu blaenoriaethu.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016/17 yn cael ei atodi i’r Datganiad Cyfrifon.