Mater - cyfarfodydd
School Organisation
Cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 21)
21 Trefniadaeth Ysgol PDF 92 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar Ffedereiddio a chynigion trefniadaeth ysgolion eraill
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion, adroddiad i roi'r diweddaraf ar Ffederasiwn a chynigion trefniadaeth ysgolion eraill.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol a chyd-destun a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, a oedd hefyd yn cwmpasu gwaith i ddymchwel rhannau o hen adeilad Ysgol Uwchradd John Summers, a'r cynllun arfaethedig ym Mhenyffordd i uno'r trefniant safle rhanedig presennol a dod â'r holl ddarpariaeth gynradd i un safle.
Yn ystod trafodaeth, ymatebodd yr Uwch Reolwr i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd ynghylch Ffederasiwn a threfniadaeth ysgolion. Dywedodd fod diweddariad ar faterion trefniadaeth ysgolion Ffederasiwn, cenedlaethol a lleol, wedi’i atodi i'r adroddiad.
PENDERFYNWYD
Nodi cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.