Mater - cyfarfodydd

School Organisation

Cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet (eitem 43)

43 Trefniadaeth Ysgolion pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:         Yr wybodaeth ddiweddaraf ar Ffederasiwn a chynigion trefniadaeth ysgol eraill.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad am Drefniadaeth Ysgolion a oedd yn amlinellu amodau a oedd ynghlwm wrth fenter ariannu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru (LlC) i hyrwyddo arloesi a chodi safonau mewn ysgolion bach a gwledig.  Amlygwyd manylion cais y Cyngor am gyllid ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn Sir y Fflint yn yr adroddiad.

 

                        Yn yr adroddiad hefyd cafwyd manylion y datblygiadau positif yn y gwaith o greu ffederasiynau ysgol newydd yn rhwydwaith ysgolion y Cyngor.

 

                        Byddai’r cyllid ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn cael ei ddefnyddio i hwyluso ac annog arloesi a newid a fyddai o fudd i’r ysgolion hynny, eu disgyblion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  Prif ddibenion y cyllid grant oedd:

 

·         Annog arloesi;

·         Cefnogi mwy o waith ysgol i ysgol;

·         Darparu cymorth gweinyddol ychwanegol mewn ysgolion ble roedd gan y pennaeth ymrwymiad addysgu arwyddocaol o 10% o'r amserlen o leiaf; a

·         Chynyddu defnydd y gymuned o adeiladau’r ysgol boed hynny at ddibenion addysgol neu anaddysgol.

 

Wrth sôn am gynnydd ffederasiynau ysgol, esboniodd y Cynghorydd Roberts fod gan Lywodraethwyr Ysgolion y grym i ddewis ffedereiddio o dan ddarpariaethau a gyflwynwyd yn 2010.  Tan yn ddiweddar, dim ond un enghraifft oedd wedi bod o Lywodraethwyr Sir y Fflint yn defnyddio eu grymoedd i ffedereiddio gyda ffederasiwn ffurfiol.  Cytunwyd ar ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Mornant ac Ysgol Maes Garmon yn ystod y broses cynigion statudol i gau Ysgol Mornant.   Byddai’r Cyngor yn ymdrechu i gefnogi ffederasiwn mewn achosion ble mae cyrff llywodraethu ysgolion yn cyd-gytuno.

 

Cytunodd Cyrff Llywodraethu Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan ac Ysgol y Waun ac Ysgol Gynradd Gwernymynydd i gynnal ymgynghoriad ynghylch cynnig i sefydlu ffederasiwn yn eu hysgolion/ardaloedd perthnasol. I Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan, byddai ffederasiwn yn cael ei weithredu’n swyddogol ar 8 Ionawr 2018.  I Ysgol y Waun ac Ysgol Gwernymynydd byddai ffederasiwn yn cael ei weithredu’n swyddogol ar 8 Chwefror 2018.  Byddai pob ffederasiwn yn cael ei reoli gan un Pennaeth Gweithredol.

 

Ym mis Rhagfyr 2016, comisiynodd y Cabinet ymgynghoriad ar gynigion statudol ar ddau safle, un ohonynt oedd cyfuno Ysgolion Brynffordd a Licswm i ffurfio un ysgol ar ail safle.   Yn dilyn trafodaethau gyda'r ddwy ysgol, argymhellwyd y dylid cael egwyl fer er mwyn caniatáu i swyddogion weithio gyda Chyrff Llywodraethu’r ddwy ysgol cyn i argymhelliad gael ei roi gerbron y Cabinet, a chefnogwyd yr argymhelliad hwnnw.

 

O ran Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Nercwys, roedd yr Awdurdod Esgobaethol wedi cynnal trafodaethau positif gyda'r Llywodraethwyr yngl?n â'r posibilrwydd o ffurfio ffederasiwn ffurfiol gyda phartner addas ac roedd trafodaethau cynnar wedi dechrau gydag ysgol arall.  Roedd y Llywodraethwyr wedi cytuno, mewn egwyddor, cydweithio’n fwy agos ag ysgol arall a sefydlu Is-bwyllgor ar y cyd a fyddai’n cael ei gynnal yn yr hydref ble byddai ffederasiwn yn cael ei drafod.  Cefnogwyd hyn ac argymhellwyd fod mwy o amser yn cael ei roi ar gyfer trafodaethau.

 

Soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y camau positif a gymerwyd gan rai ysgolion i wneud ymdrech frwd i  ...  view the full Cofnodion text for item 43