Mater - cyfarfodydd

Asset Disposal and Capital Receipts generated 2016/17

Cyfarfod: 12/06/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 5)

5 Gwaredu Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a gynhyrchwyd 2016/17 pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas: Adroddiad yn ymwneud â gwaredu asedau’r Cyngor yn 2016/17 gan gynnwys symiau ac ystod gwerth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad ar dderbyniadau cyfalaf a gynhyrchwyd wrth werthu asedau yn 2016/17 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol.  Nododd y dull a ddefnyddiwyd i ddelio â derbyniadau cyfalaf a gyfrannodd at y Rhaglen Gyfalaf ac eglurodd bod y swm o gyllid a gynhyrchwyd wedi’i ddylanwadu’n helaeth gan y sefyllfa economaidd ar y pryd.

 

 Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Banks, rhoddwyd cadarnhad ar y broses o werthu megis ystadau amaethyddol o’i gymharu ag eiddo Cyfrif Refeniw Tai (HRA) a oedd yn cael eu neilltuo.  Cafodd ei gynghori y bydd manylion pellach ar y wybodaeth gyffredinol wedi’u hatodi i’r adroddiad yn gallu cael eu darparu ar gais y tu allan i’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin i’r Panel Amaethyddol blaenorol, a dywedodd bod y gwerthiannau yn cael eu delio bellach gan y Bwrdd Rhaglen Asedau, a oedd yn cyfarfod bob mis, ac roedd ymgynghori ag Aelod Lleol yn rhan o’r broses ar bob gwerthiant.

 

Gofynnodd Sally Ellis os oedd y meini prawf yn destun adolygiad rheolaidd i wella cyfleoedd am dderbyniadau cyfalaf.  Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) bod y broses yn gadarn ond heb gael ei adolygu ers peth amser.   Rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o wahanol fathau o asedau a oedd wedi cael eu gwerthu fel rhan o adolygiadau ardal/ gwasanaeth penodol, ond teimlwyd bod y broses ar gyfer asedau eiddo cyffredinol yn gallu manteisio ar gael adolygiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.