Mater - cyfarfodydd
Schedule of Remuneration
Cyfarfod: 20/06/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 25)
25 Atodlen Cydnabyddiaethau Ariannol PDF 68 KB
Pwrpas: Gofynnir i’r Cyngor gymeradwyo Atodlen Cydnabyddiaethau Ariannol 2017/18 ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig, r?an bod yr holl benodiadau wedi’u gwneud.
Dogfennau ychwanegol:
- Schedule of Member Remuneration for 2017-18 for IRPW, eitem 25 PDF 161 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Atodlen Cydnabyddiaethau Ariannol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atodlen ddrafft o gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2017/18 yn dilyn penodiadau i ‘swyddi cyflogau uwch’. I alluogi’r Cyngor i gwblhau a chyhoeddi’r Atodlen erbyn y terfyn amser statudol, sef 31 Gorffennaf 2017, ceisiwyd caniatâd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ychwanegu enwau'r ddau aelod cyfetholedig a oedd ar goll o Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd cyn ei gyhoeddi. Er bod un wedi'i dderbyn yn ddiweddar, byddai'r ail enw yn cael ei ddweud yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol a gwblhawyd ar gyfer 2017/18, fel yr atodir wrth yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; a
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cael awdurdod i ychwanegu enwau'r aelodau cyfetholedig terfynol at yr atodlen cyn ei chyhoeddi.