Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2016/17 (Month 12)
Cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet (eitem 6)
6 Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 12) PDF 96 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn rhoi’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 12 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 12) a oedd yn rhoi manylion sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Byddai'r canlyniad terfynol yn cael ei adrodd fis Gorffennaf ar ôl gorffen cau cyfrifon 2016/17.
Dyma’r sefyllfa diwedd blwyddyn a ragamcanwyd:
Cronfa’r Cyngor
· Roedd y sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.846m; sy’n gynnydd yn y diffyg o £0.131m o’r sefyllfa a adroddwyd ym Mis 10.
· Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragamcanwyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a rhagamcanwyd y byddai’r gwariant net £2.050m yn is na’r gyllideb.
· Rhagamcanwyd y byddai balans y gronfa wrth gefn yn £5.144m.
Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelwyd y byddai gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.047m yn uwch na’r gyllideb.
· Rhagamcanwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2017 yn £1.050m.
Darparai'r adroddiad fanylion am symudiadau cyllid sylweddol rhwng y gyllideb wreiddiol a’r un ddiwygiedig, y rhaglen o arbedion effeithlonrwydd, chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau a cheisiadau i symud cyllid yn ei flaen.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai unrhyw risgiau heb eu datrys ers 2016/17 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet fis Gorffennaf.
Soniodd y Cynghorydd Thomas am y gorwariant yr oedd wedi’i dderbyn ar gyllideb ei phortffolio hi ac fe ddatganodd ei phryder yngl?n â darparu gwasanaethau sylfaenol pan fo diffyg yn y gyllideb. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai pwysau ar gyllidebau’n cael ei gynnal yn gorfforaethol a phe derbynnid unrhyw gyfraniadau ychwanegol i’r gyllideb, byddai'r rhain yn cael eu defnyddio’n gorfforaethol. Rhoddodd y Cynghorydd Shotton bwyslais ar y lefel o ddarbodaeth ariannol a oedd yn wynebu’r Cyngor a dywedodd fod angen parhau i wrthwynebu hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2017;
(b) Nodi lefel derfynol ragamcanol balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; ac
(c) Y dylid cytuno ar y ceisiadau i symud cyllid ymlaen.