Mater - cyfarfodydd

Local Resolution Procedure for Town and Community Councils

Cyfarfod: 05/06/2017 - Pwyllgor Safonau (eitem 7)

7 Gweithdrefn Datrysiad Lleol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas: Cymeradwyo ac annog mabwysiad gweithdrefn Un Llais Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y pwyllgor yn nodi’r egwyddorion a amlinellwyd o fewn Gweithdrefn Ddatrys Leol Un Llais Cymru ac annog ei fabwysiadu gan Gynghorau Tref a Chymuned.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar fabwysiadu Gweithdrefn Penderfyniadau Lleol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn cynorthwyo i leihau'r nifer o gwynion lefel-isel a gyflwynir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

 

Gofynnwyd am farn ynghylch a ddylid annog Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu protocol model symlach a oedd wedi’i ddarparu gan Un Llais Cymru.     Eglurwyd bod y protocol yn caniatáu peth hyblygrwydd i gynghorau ei addasu i’w defnydd eu hunain ar gam lle nad oedd cwynion byw neu gyfredol.

 

Er nad oedd gan y Cynghorwyr Heesom a Woolley unrhyw broblemau gyda chynnwys y protocol, roedd gan y ddau amheuon ynghylch parodrwydd y Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu gweithdrefn gan Un Llais Cymru.    Gwnaeth y Cynghorydd Wolley sylw hefyd am yr angen am agwedd unffurf ledled Cymru. 

 

 Yn dilyn trafodaeth bellach, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y trefniadau gwneud penderfyniad a fabwysiadwyd yn flaenorol gan y Cyngor yn addas ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned ac mai'r protocol a gyflwynir nawr oedd yr unig gynsail addas iddynt ei fabwysiadu. 

 

 O ystyried y pryderon a godwyd, gwnaed nifer o awgrymiadau ar y ffordd orau i hybu'r protocol ac annog ei fabwysiadu.

 

Yn dilyn awgrymiad gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r egwyddorion a amlinellwyd o fewn Gweithdrefn Penderfyniadau Lleol Un Llais Cymru ac annog Cynghorau Tref a Chymuned i’w fabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor yn nodi’r egwyddorion a amlinellwyd o fewn Gweithdrefn Ddatrys Leol Un Llais Cymru ac annog ei fabwysiadu gan Gynghorau Tref a Chymuned.