Mater - cyfarfodydd
Treasury Management Annual Report 2016/17 and Treasury Management Update Quarter 1 2017/18
Cyfarfod: 19/07/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 20)
Mae’r adroddiad yn cyflwyno (i) Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys drafft 2016/17 ar gyfer adolygiad ac yn gofyn am argymhelliad y Pwyllgor am gymeradwyaeth i’r Cabinet; a (ii) diweddariad am faterion sy’n ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor 2017/18 at ddiwedd mis Mai 2017.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Treasury Management reporting cycle 2017-18, eitem 20 PDF 52 KB
- Enc. 2 - Draft TM Annual Report 2016-17, eitem 20 PDF 371 KB
- Enc. 3 - Investment portfolio as at 30.06.17, eitem 20 PDF 17 KB
- Enc. 4 - Long term borrowing as at 30.06.17, eitem 20 PDF 122 KB
- Enc. 5 - Short term borrowing as at 30.06.17, eitem 20 PDF 17 KB
- Enc. 6 - Investments and short term borrowing in 2016-17 and 2017-18 to date, eitem 20 PDF 35 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol yr Adroddiad Blynyddol ar Bolisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor 2016/17 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet.
Yn rhan o ddiweddariad ar weithgarwch rheoli’r trysorlys yn chwarter cyntaf 2017/18, adroddwyd cynnydd bychan yn y portffolio buddsoddi. Roedd y sefyllfa mewn perthynas â benthyca’n adlewyrchu’r strategaeth i ddefnyddio benthyca tymor byr ar gyfraddau is. Roedd graff yn dangos symudiadau ar fuddsoddiadau a balansau benthyca tymor byr rhwng mis Ebrill 2016 a Mehefin 2017. I ategu'r drefn adrodd ar gyfer 2017/18, byddai sesiwn hyfforddi gan yr ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys, Arlingclose Ltd, yn cael ei threfnu ar gyfer yr holl aelodau’n gynnar ym mis Ionawr 2018.
Amlygodd y Cadeirydd yr angen am sicrwydd ar allu’r cyfrif refeniw i ymdopi â lefelau cynyddol y dyledion allanol ynghyd â chymhariaeth â chynghorau eraill. Cytunodd Rheolwr Cyllid i gynnwys hyn yn yr adroddiad diweddaru nesaf. Tynnodd sylw at yr adroddiad Cabinet diweddar ar Ddangosyddion Darbodus a oedd yn cynnwys canran y costau refeniw a oedd yn mynd at ddyled tymor hir.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cadeirydd, rhoddwyd eglurhad ar y gwasanaethau arbenigol a ddarparwyd gan Arlingclose ac ar broffil terfynau dyledion lle'r oedd uchafbwyntiau’n adlewyrchu’r benthyciadau a gymerwyd i roi diwedd ar y system cymorthdaliadau tai negyddol.
Holodd y Cynghorwyr Paul Johnson a Chris Dolphin yngl?n â benthyca tymor byr rhwng cynghorau. Eglurodd Rheolwr Cyllid fod gwahaniaeth rhwng rheoli llif arian y Cyngor a’r sefyllfa gyllidebol yr oedd cynghorau yn ei hadrodd ac fe gyfeiriodd at y graff a oedd yn dangos symudiadau yn y balansau arian wedi'u rheoli gan fuddsoddiadau tymor byr a benthyca tymor byr.
Mewn perthynas â sylw blaenorol y Cynghorydd Dolphin, roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn teimlo bod nifer ddigonol yn y Pwyllgor. Cynigiodd y gallai’r Pwyllgor, yn enwedig aelodau mwy newydd, elwa o hyfforddiant ychwanegol cyn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Johnson. Awgrymodd hefyd y gallai Arlingclose ddarparu’r hyfforddiant drwy gyswllt fideo. Eglurodd Rheolwr Cyllid fod y contract gydag Arlingclose yn caniatáu un sesiwn hyfforddiant y flwyddyn, felly, efallai y byddai cost ychwanegol am hyfforddiant ychwanegol, neu fe ellid ystyried darparu hyfforddiant mewnol gan swyddogion.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at fanteision aelodaeth arbenigol, lai yn y Pwyllgor ond fe ddywedodd y gellid adolygu maint y Pwyllgor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf os oedd yr aelodau'n dymuno.
Gwahoddodd Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro awgrymiadau am themâu penodol ar gyfer yr hyfforddiant, y gellid eu cynnwys ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Blynyddol drafft 2016/17 ar Reoli’r Trysorlys heb ddod ag unrhyw faterion at sylw'r Cabinet ar 26 Medi 2017.
(b) Nodi Diweddariad Chwarter 1 2017/18 ar Reoli’r Trysorlys; a
(c) Bod hyfforddiant ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor cyn sesiwn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys.