Mater - cyfarfodydd
Internal Audit Annual Report
Cyfarfod: 12/06/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 9)
9 Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol PDF 80 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad yr holl waith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2016/17 a rhoi’r farn Archwilio Mewnol flynyddol ar safon rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu yn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro yr adroddiad a oedd yn crynhoi canlyniad o’r holl waith archwilio a gyflawnwyd yn ystod 2016/17 ac yn cynnwys y farn archwilio bod gan y Cyngor fframwaith digonol ac effeithiol o lywodraethu, rheoli risg a rheolaeth.
Gan roi trosolwg o gwmpas a sail ffurfio barn archwilio, gwnaethpwyd cyfeiriad at leihad archwiliadau lefel sicrwydd ‘coch’ yn ystod y cyfnod a lefelau cyffredinol da o reoli aseiniadau archwilio.
Mewn ymateb i ymholiad gan Sally Ellis, soniodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro am ddatblygu'r ffordd wahanol o fynd at archwiliadau gyda chynnydd mewn gwaith ymgynghorol. Hefyd, cyfeiriodd at weithio ar y cyd a chysgodi o fewn y tîm i helpu gwella gwybodaeth meysydd gwasanaeth a helpu gyda chynllunio ar gyfer olyniaeth. Byddai hyn yn galluogi cylchdroi'r gwaith system allweddol rhwng Archwilwyr.
PENDERFYNWYD:
I nodi’r adroddiad ac i dderbyn barn flynyddol archwiliad mewnol.