Mater - cyfarfodydd
Integrated Youth Provision
Cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet (eitem 12)
Darpariaeth Ieuenctid Integredig
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y strwythur rheoli ar gyfer y gwasanaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (12/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (12/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (12/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (12/5)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (12/6)
- Restricted enclosure 7 , View reasons restricted (12/7)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynnig i ailffurfio arweinyddiaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig ar ôl mabwysiadu'r cynllun darparu integredig ar gyfer gwasanaethau ieuenctid a'r model parhad o angen ar gyfer gwasanaethau arbenigol cyffredinol / wedi’u targedu.
Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r holl Gynghorwyr a oedd wedi bod yn rhan o’r gweithdy a’r holl staff yn y timau gweithredol. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar ddiogelu’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed i fod yn ddiogel yn y byd rhithwir ac roedd hwn yn gyfnod cyffrous i ymgysylltu â phobl ifanc. Soniodd y Cynghorydd Shotton am y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n cael ei ystyried yn y Cyngor Sir yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, a oedd yn cynnig sefydlu Cyngor yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint, a fyddai’n rhan o waith y Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol.
Ar y pwynt hwn, cymerodd y Cynghorydd Shotton gyfle i ddiolch i Mr Ian Budd, y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ar ran yr holl Aelodau Cabinet am ei holl waith caled ers dechrau gweithio i Gyngor Sir y Fflint a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Rhoi cefnogaeth i ailffurfio arweinyddiaeth y gwasanaeth i ddarparu arweinyddiaeth effeithlon ac effeithiol ar gyfer darpariaeth ieuenctid integredig ac i alluogi rhoi cefnogaeth i gynllunio ar gyfer olyniaeth;
(b) Cefnogi ailffocysu gwaith cyfranogi uniongyrchol gyda phobl ifanc i gynnwys mwy o ddulliau cyfathrebu dros gyfryngau cymdeithasol a llythrennedd digidol; a
(c) Cefnogi arloesed model gwasanaethau cyfredol sy'n tyfu o gomisiynu sawl maes yn y gwasanaeth i'r 3ydd sector neu i gyrff allanol eraill.