Mater - cyfarfodydd
Schedule of Meetings
Cyfarfod: 18/05/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 12)
12 Amserlen o Gyfarfodydd PDF 75 KB
Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18.
Ym mis Mawrth 2016 gofynnwyd i Gynghorwyr am eu dewis o ran amseroedd dechrau cyfarfodydd gyda’r mwyafrif yn ffafrio’r dydd. Fodd bynnag, cydnabuwyd y dylai’r Cyngor newydd wneud ei benderfyniad ei hun o ran pa bryd y dylid cynnal cyfarfodydd ac argymhellwyd y dylid cael arolwg pellach. Fodd bynnag, o safbwynt cynllunio busnes, roedd angen i’r Cyngor allu cynllunio ar gyfer y flwyddyn gyfan felly roedd yr amserlen ddrafft yn dangos cyfarfodydd bore a phnawn i’w hystyried ger bron Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18 am y tro; a
(b) Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal arolwg o ddewis yr Aelodau o ran pryd y dylid cynnal cyfarfodydd. Bydd hyn ar ôl toriad mis Awst gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad yn dadansoddi'r canlyniadau i Bwyllgor y Cyfansoddiad ym mis Hydref.