Mater - cyfarfodydd

Pooling of Pensions Investments in Wales

Cyfarfod: 01/03/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 101)

101 Cyfuno Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn Cymru pdf icon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Cytundeb Rhwng Awdurdodau sy’n gosod y trefniadau llywodraethu priodol ar gyfer cyfuno buddsoddiadau pensiwn gyda’r saith Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda chyfrifoldebau i'w dirprwyo i Bwyllgor Llywodraethu ar y Cyd.

 

O ganlyniad i gyflymder y mater hwn, roedd argymhellion adroddiad geiriol wedi ei gefnogi gan y Pwyllgor Cyfansoddiad i geisio cael cymeradwyaeth y Cyngor.  Mynegodd y Prif Weithredwr werthfawrogiad o waith Rheolwr Cronfa Bensiwn Clwyd a’r Rheolwr Cyllid Pensiwn, yn ogystal â'r penderfyniad gan Gyngor Sir Caerfyrddin i weithredu fel yr awdurdod lletyol ar gyfer y P?l Buddsoddi Cymru Gyfan.

 

Fel Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd cadarnhaodd y Cynghorydd Allan Diskin fod yr argymhellion wedi eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod cynnwys fersiwn drafft y Cytundeb Rhwng Awdurdodau, sydd wedi ei atodi fel Atodiad B i’r adroddiad, yn cael ei nodi a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor Pensiynau Clwyd a’r Swyddog Monitro i:

 

·         gytuno ar unrhyw fân newidiadau pellach i’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau

·         gymeradwyo ac arwyddo fersiwn derfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

 (b)      I sefydlu cyd bwyllgor (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y Cyd Bwyllgor Llywodraethu) ar sail y cylch gorchwyl sydd wedi ei atodi i’r adroddiad o fewn y gwelliannau arfaethedig i’r Cyfansoddiad;

 

 (c)      Fod gweithredu swyddogaethau penodol yn cael eu dirprwyo i’r Cyd Bwyllgor Llywodraethu fel y nodir o fewn y gwelliannau arfaethedig i’r Cyfansoddiad;

 

(d)       Fod y swyddogaethau sydd wedi eu cadw i’r Cyngor yn cael eu nodi, a’r holl faterion a gaiff eu dirprwyo i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, ac eithrio terfynu neu wneud gwelliant sylweddol i’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

 (e)      Cymeradwyo penodi Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd i’r Cyd Bwyllgor Llywodraethu fel cynrychiolydd Sir y Fflint ac Is-gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd fel ei Ddirprwy ef/hi.

 

 (f)       Darparu dirprwyaeth i’r cynrychiolydd a enwebwyd a’i Ddirprwy ef/hi i weithredu o fewn cylch gorchwyl y Cyd Bwyllgor Llywodraethu i alluogi gweithredu unrhyw swyddogaeth ddirprwyedig;

 

 (g)      Fod Cyngor Sir Caerfyrddin (Cronfa Bensiwn Dyfed) yn gweithredu fel yr awdurdod lletyol gyda'r cyfrifoldebau wedi eu nodi yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau; a

 

 (h)      Cymeradwyo'r gwelliannau i'r Cyfansoddiad fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad.