Mater - cyfarfodydd

Regional Working and the White Paper ‘Reforming Local Government: Resilient and Renewed’

Cyfarfod: 01/03/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 96)

96 Gweithio Rhanbarthol a'r Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad' pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru oedd yn ddatganiad o fwriad ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru a hynny yn lle'r Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) cynharach gan y Llywodraeth flaenorol.  Rhoddodd gyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         cefndir

·         pwyntiau sy’n gorgyffwrdd

·         cynnwys y Papur Gwyn

·         beirniadaeth o’r Papur Gwyn

·         ein hatgoffa o’r hyn ddywedom ni wrth ymateb i’r Mesur diwethaf

·         Rhan 2: Gweithio Rhanbarthol

·         Rhan 3: Uno Gwirfoddol

·         Rhan 4: Arweinyddiaeth Leol

·         Rhan 5: Ardaloedd Arweiniol

·         Rhan 6: Cynghorau Cymuned

·         Rhan 7: Etholiadau a Phleidleisio

·         cynigion eraill

 

Canmolodd y Prif Weithredwr y berthynas weithio gadarnhaol gydag Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.  Yngl?n â’r Papur Gwyn, rhannodd bryderon yn ymwneud â’r cymysgedd amheus o faterion, y diffyg manylder ac absenoldeb cyllid angenrheidiol i gefnogi cadernid ac adnewyddiad mewn llywodraeth leol.  Byddai safbwyntiau aelodau’n cael eu cyfuno o fewn yr ymateb drafft a'u rhannu cyn ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau sef 11 Ebrill 2017.

 

Disgrifiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y darpariaethau o fewn y Papur Gwyn fel rhai pellgyrhaeddol.  Wrth gydnabod yr angen am ffyrdd gwahanol o weithio a chydweithredu rhanbarthol priodol, atgoffodd hwy o gynnydd sylweddol y Cyngor a nododd bwysigrwydd sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gweithio rhanbarthol a’r lleol.  Tra roedd yn cefnogi dull unffurf i systemau pleidleisio etholiadol, siaradodd yn erbyn y syniad o ddatganoli cyfrifoldeb dros dai i’r rhanbarthau. Er mwyn galluogi trafodaeth wybodus yn cynnwys Aelodau newydd eu hethol, teimlai y dylai'r Cyngor geisio ymestyn dyddiad cau'r ymgynghoriad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Owen Thomas sylw ar bwysigrwydd y cynnydd ar Bwerdy’r Gogledd a rhaglen band eang BT i gryfhau’r economi leol.  Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar ddatblygiad cadarnhaol y strategaeth twf rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru a’r system fetro arfaethedig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Mike Peers yr awgrym o ymestyn dyddiad cau'r ymgynghoriad.  Ar ddarpariaethau’r Papur Gwyn, galwodd am fwy o fanylion y tu ôl i’r Cyd Fyrddau Cynllunio a chyfeiriodd at yr effaith amgylcheddol o symud cerbydau rhwng siroedd i gydweithio ar wastraff.  Nododd fod adnoddau ychwanegol yn angenrheidiol i ymdrin â Chwestiwn 6 yr Ymgynghoriad a cheisio rhesymeg tu ôl i’r amcan o geisio cael ‘amrediad mwy amrywiol' o gynghorwyr, gan hefyd wneud sylwadau y gellid sicrhau dulliau mwy modern o gyfathrebu yn lle’r cymorthfeydd.  Ychwanegodd y byddai mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ostwng 'pwysau diangen' ac nad oedd y diffyg ffocws ar gydweithio trawsffiniol yn cydnabod sefyllfa Sir y Fflint.  Wrth ymateb i sylwadau rhoddodd y Prif Weithredwr eglurder ar y pedwar term a ddefnyddir ar gyfer y partneriaethau economaidd presennol a ddangosir ar y map oedd yn dangos ardaloedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.  Hefyd nododd fod cyllid ar gyfer strategaeth twf Gogledd Cymru yn ddibynnol ar gydweithio trawsffiniol.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Arnold Woolley y feirniadaeth o'r papur gwyn a'r cynnig i ymestyn y dyddiad cau.  Teimlai nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arwydd o'r dull gorau o lywodraethu'n lleol,  ...  view the full Cofnodion text for item 96