Mater - cyfarfodydd
Trade Union (Wales) Bill
Cyfarfod: 01/03/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 97)
97 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) PDF 104 KB
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Final Consultation Letter on Trade Unions, eitem 97 PDF 133 KB
- Enc. 2 - Equality, Local Government and Communities Committee Inquiry into Trade Union (Wales) Bill, eitem 97 PDF 71 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Bil yr Undebau Llafur (Cymru)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Fesur yr Undebau Llafur (Cymru) oedd yn ceisio dadwneud rhai darpariaethau o’r Ddeddf Undebau Llafur 2016 yng Nghymru. Roedd ymateb cychwynnol gan y Cabinet yn cefnogi’r Mesur wedi ei ddarparu i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwahoddwyd ymateb gan y Cyngor llawn yn sgil y Rhybudd o Gynnig a ystyriwyd ym Mawrth 2016.
Wrth grynhoi’r rhesymau dros gynnal y trefniadau cyfredol, soniodd y Prif Weithredwr am y berthynas waith effeithiol rhwng y Cyngor a'r Undebau Llafur cydnabyddedig, gyda Chytundeb Cyfleusterau yn rhoi eglurder ar swyddogaethau.
Galwodd y Cynghorydd Aaron Shotton ar Aelodau i gefnogi ymateb y Cabinet oedd yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a dangosodd gefnogaeth i’r Mesur. Eiliwyd hyn.
Wrth gefnogi’r argymhellion, talodd y Cynghorydd Paul Shotton deyrnged i'r cydweithio cadarnhaol rhwng swyddogion a swyddogion yr Undebau Llafur.
PENDERFYNWYD:
Fod y Cyngor yn cefnogi Mesur yr Undebau Llafur (Cymru) ar argymhelliad y Cabinet a chydnabod polisi Conwy fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig.