Mater - cyfarfodydd

New Child Care Offer

Cyfarfod: 14/02/2017 - Cabinet (eitem 152)

152 Cynnig Gofal Plant Newydd pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r cabinet am y cynnig Gofal Plant newydd i Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones adroddiad Cynnig Gofal Plant Newydd a oedd yn manylu ar gais llwyddiannus Sir y Fflint i fabwysiadu cynllun peilot yn fuan ar gyfer gofal plant am ddim.

 

                        Erbyn diwedd 2021 bydd y Cynnig yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar i blant 3 a 4 oed am 48 wythnos y flwyddyn i rieni, a fyddai’n cael ei ariannu gan y llywodraeth.  Roedd hynny'n cynnwys 10 wythnos o fewn y cyfnod gwyliau ysgol gyda'r nod o gefnogi teuluoedd drwy ddarparu gofal plant o safon oedd yn hyblyg ac yn fforddiadwy.   

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Bithell y cynllun peilot a fyddai'n cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar incwm y teulu ac yn helpu rhieni i gael gwaith gan leihau perygl y teulu o dlodi.

 

                        Fe eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai'r cynllun yn rhoi cyfle i 441 o blant ym Mlwyddyn 1 (Medi 2017 - Medi 2018) a oedd yn gynnydd ar garfan gychwynnol o 75 i 100. Roedd y meini prawf i gymhwyso wedi’i amlinellu yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Shotton bod y cynllun yn arwyddocaol i rieni sy'n gweithio ac ar gyfer y rhai sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith, ac fe eglurodd y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu ym Mwcle i gychwyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r ffaith bod Sir y Fflint, yn gweithredu’r cynnig yn gynnar, a gwneud y mwyaf o gyfle grant gwerth £1,552,000, gan gefnogi swyddogaeth lawn y cynllun ar draws Sir y Fflint, a fyddai o fudd i 441 o blant tair i bedair oed a'u teuluoedd.