Mater - cyfarfodydd

Pay Policy Statement

Cyfarfod: 01/03/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 98)

98 Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yr adroddiad blynyddol a geisiai gymeradwyaeth i Ddatganiad Polisi Tâl y Cyngor i alluogi ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2017. Tra roedd y cynnwys yn cwrdd â gofynion cyfreithiol, roedd gwybodaeth ychwanegol hefyd wedi ei gynnwys fel ymarfer da ac i wneud y ddogfen yn fwy ystyrlon; roedd y rhain yn ymwneud â thaliadau bonws a thâl ar sail perfformiad, cynlluniau aberthu cyflog a’r dull o reoli talent.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Datganiad yn crynhoi agwedd y sefydliad tuag at dâl presennol a threfniadau cydnabyddiaeth a soniodd am newidiadau deddfwriaethol oedd yn golygu fod rhaid i fwy o gyrff cyhoeddus bellach gyhoeddi eu trefniadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y meini prawf ar gyfer rhoi cynnydd blynyddol yn achos Prif Swyddogion, a theimlai mai dim ond lle roedd yr holl arfarniadau wedi eu cwblhau o fewn eu timau priodol y dylai hyn fod yn weithredol.  Fel cymhelliad pellach, dywedodd y gellid rhoi cynnydd rhannol hyd nes y byddai Prif Swyddog wedi cwblhau arfarniad boddhaol.  Soniodd y Prif Weithredwr am y disgwyliad clir ar i Brif Swyddogion oruchwylio cwblhau’r arfarniadau yn eu timau fel rhan allweddol o’u harfarniadau eu hunain.  Dywedodd y gellid ystyried yr awgrymiadau yn ddiweddarach a soniodd am y gwaith sydd wedi ei wneud ar arfarniadau i wella eu hansawdd a’r gyfradd gwblhau.

 

Wrth ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Gareth Roberts ar y rheol ‘IR35’, eglurwyd mai dim ond i leiafrif o unigolion sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â'r Cyngor roedd hyn yn berthnasol a bod gwaith ar y gweill i ymdrin â hyn.

 

Nododd y Cynghorydd Mike Peers bwysigrwydd arfarniadau i helpu i hybu perfformiad.  Yn yr adran yn ymwneud â thâl wedi ei seilio ar berfformiad yn y Datganiad, dywedodd y dylid egluro mai dim ond i Brif Swyddogion yr oedd y system arfarnu yn gysylltiedig â thâl yn berthnasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2017/18 yn cael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu.