Mater - cyfarfodydd
Capital Programme 2016/17 (Month 9)
Cyfarfod: 14/02/2017 - Cabinet (eitem 146)
146 Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Mis 9) PDF 112 KB
Pwrpas: I gynnig gwybodaeth i aeldoau ar Raglen Gyfalaf Mis naw ar gyfer 2016-17
Dogfennau ychwanegol:
- Capital Programme 201617 Month 9 - app1, eitem 146 PDF 59 KB
- Capital Programme 201617 Month 9 - app2, eitem 146 PDF 101 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Mis 9) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf ers Mis 6, ynghyd â’r gwariant hyd yn hyn a'r alldro a ragwelir.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi cynyddu £0.573m yn ystod y cyfnod oherwydd:
· Cyflwyno cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Adnewyddu'r Sector Preifat (£0.175m)
· Cyllid grant ychwanegol Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid gan Lywodraeth Cymru (£0.100m)
· Cyflwyno Cyllid Adran 106 Offer Ardal Chwarae (£0.120m)
· Cynnydd Agregau Arall (£0.178m)
Gwariant gwirioneddol at Fis 9 oedd £43.277m gydag alldro wedi’i ragweld o £60.224m oedd yn danwariant o £0.896m. Yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer ariannu gwariant cyfalaf yn y dyfodol oedd tua £3.873m, roedd y cyfan wedi cael ei glustnodi i ariannu cynlluniau cyfalaf o 2017/18 ymlaen fel rhan o bennu rhaglen gyfalaf y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y chwarter, roedd Treigl o Gyllid o £1.063m ychwanegol wedi’i adnabod yn fuan a oedd yn adlewyrchu cynlluniau gwariant ar draws pob maes rhaglen; roedd y symiau ymroddedig hynny bellach wedi cael eu nodi yn ofynnol i ddiwallu cost y gwaith rhaglen a/neu daliadau cadw yn 2017/18.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ni chafodd unrhyw broblemau eu nodi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adroddiad cyffredinol yn cael ei gymeradwyo; a
(b) Bod yr addasiadau treigl cyllid yn cael ei gymeradwyo.