Mater - cyfarfodydd

Self Evaluation of Education Services

Cyfarfod: 14/02/2017 - Cabinet (eitem 150)

150 Hunanwerthusiad y Gwasanaethau Addysg pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Darparu drafft Hunan Werthuso ar gyfer mabwysiadu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg a oedd yn asesiad blynyddol yn erbyn y fframwaith ar gyfer gwasanaethau addysg yr Awdurdod Lleol a sefydlwyd gan Estyn.

 

                        Prif bwrpas yr hunan werthuso oedd arwain at welliannau gwasanaeth, gan gynnwys canlyniadau a gyflawnir gan ddysgwyr.  Mae'r broses o hunan werthuso yn barhaus ac wedi’i sefydlu yng ngwaith yr Awdurdod Lleol  gyda'r pwyslais bob amser ar werthuso effaith pob agwedd o ddarpariaeth ar safonau a lles dysgwyr.

 

                        Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cryfderau canfyddedig ynghyd â materion a heriau allweddol, ac roedd wedi’i lunio gyda chyfraniad gan swyddogion yr Awdurdod Lleol, partneriaid GwE a chynrychiolwyr ysgolion.  Ceir manylion llawn yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a rhoddodd sylw ar ymrwymiad y cabinet i ddiogelu addysg yn Sir y Fflint.  Yn ogystal, fe groesawodd y data ar ganran y dysgwyr sy'n gadael yr ysgol heb gymhwyster a nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), sef 1.3% yn 2015. Dyma oedd y gyfran isaf o NEETS Blwyddyn 11 yng Nghymru, a’r ffigur isaf erioed Sir y Fflint am yr ail flwyddyn yn olynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y dystiolaeth mewn perthynas â'r drafft  hunanwerthuso diweddaraf yn cael ei dderbyn.