Mater - cyfarfodydd
Connah's Quay Swimming Pool: Detailed Business Plan 2016/18
Cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet (eitem 130)
Pwll Nofio Cei Connah: Cynllun Busnes Manwl 2016/18
Pwrpas: Ystyried Cynnydd a Pherfformiad 'Cambrian Aquatics'
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (130/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (130/3)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) Bwll Nofio Cei Connah:Adroddiad Cynllun Busnes Manwl. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ariannol allweddol, a oedd yn ychwanegol i eitem rhif 4 ar y rhaglen a ystyriwyd mewn sesiwn agored.
Croesawodd Aelodau’r adroddiad a chynnydd Cambrian Aquatics yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid darparu grant refeniw o £0.065 miliwn i Cambrian Aquatics i gefnogi gweithrediad pwll Nofio Cei Connah yn unol â chytundebau cyfreithiol sydd eisoes wedi eu llofnodi rhwng Cambrian Aquatics a Chyngor Sir y Fflint; a
(b) Dylid rhyddhau’r grant yn amodol ar nifer o amodau fel a ganlyn:
· Darparu dadansoddiad elw a cholled llawn wedi’i ddiweddaru cyn rhyddhau’r grant;
· Darparu dogfen adolygiad blwyddyn lawn ar ôl diwedd mis Mai 2017 a chyn diwedd Gorffennaf 2017; a
· Derbyn cyfrifon wedi eu harchwilio cyn diwedd 2017.