Mater - cyfarfodydd
Alternative Delivery Model Social Care Learning Disability Day Care and Work Opportunity Services
Cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet (eitem 131)
Model Darparu Amgen Gofal Cymdeithasol, Gofal Dydd Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Cyfleoedd Gwaith
Pwrpas: Cytuno ar ddarparwr dewisol i gyflawni Gwasanaethau Dydd a Gwaith Anableddau Dysgu i gael eglurhad pellach fel rhan o'r broses gaffael
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones Fodel Darparu Gwahanol Gofal Cymdeithasol y Gwasanaeth Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu
Eglurodd y Prif Weithredwr y gofynnwyd am gymeradwyaeth i ddarparwr a ffafriwyd i alluogi cael eglurhad pellach ar y cynnig oedd wedi ei gyflwyno cyn cael penderfyniad terfynol ym mis Mawrth o ran a ddylid dyfarnu contract. Byddai hyn yn galluogi’r cwmni a oedd wedi cyflwyno cais i gael eu hysbysu nad oedd y contract wedi’i ddyfarnu iddynt.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid rhoi cymeradwyaeth i Home Farm Trust fel y darparwr a ffafriwyd i ddarparu Gwasanaethau Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anabledd Dysgu i symud ymlaen i’r cam eglurhad pellach ar y cais a gyflwynwyd ganddynt cyn cael penderfyniad terfynol o ran a ddylid dyfarnu'r contract; a
(b) Dylid cyflwyno adroddiad llawn a therfynol yn ôl i’r Cabinet ddim hwyrach na mis Mawrth i hysbysu penderfyniad ar y model i’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol ac a ddylid dyfarnu contract.