Mater - cyfarfodydd
Play Areas, Play Schemes and Strategic Play Forum Update
Cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet (eitem 127)
127 Diweddariad Fforwm Ardaloedd Chwarae, Cynlluniau Chwarae a Chwarae Strategol PDF 84 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar ardaloedd chwarae a chynlluniau chwarae
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Play Areas, Play Schemes and Strategic Play Forum Update, eitem 127 PDF 44 KB
- Enc. 2 for Play Areas, Play Schemes and Strategic Play Forum Update, eitem 127 PDF 76 KB
- Enc. 3 for Play Areas, Play Schemes and Strategic Play Forum Update, eitem 127 PDF 1 MB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad diweddaru ar y Fforwm Ardaloedd Chwarae, Cynlluniau Chwarae a Chwarae Strategol
Roedd y Cyngor wedi gwneud ymrwymiad i gynnal gweithgaredd chwarae yn y Sir drwy:
- Parhau â’r arian refeniw cyfatebol ar gyfer lleoedd chwarae (£0.105 miliwn y flwyddyn);
- Dyraniad arian cyfalaf dros dro drwy’r rhaglen gyfalaf i adnewyddu ardaloedd chwarae (£0.887 miliwn dros dair blynedd yn amodol ar benderfyniad y Cyngor ym mis Chwefror);
- Parhau i gynnal pob ardal chwarae yn ystod 2017/18;
- Blwyddyn o gyllid pontio i alluogi cynlluniau chwarae i barhau yn ystod 2016 ar ôl diwedd y Grant Llywodraeth Cymru gan Deuluoedd yn Gyntaf; a
- Y cytundeb i ailfywiogi Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint i gydlynu gweithgaredd chwarae ar draws Sir y Fflint.
Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad cynnydd ar y materion hynny gan gynnwys argymell cymeradwyo’r cynlluniau arian cyfatebol ar gyfer lleoedd chwarae a dyraniad swm un-tro o £0.040 miliwn i gefnogi cynlluniau chwarae yn 2017.
Roedd y Cyngor yn gweithredu cynllun arian refeniw cyfatebol a anelwyd at gynnal lleoedd chwarae a oedd angen arian cyfatebol gan Gynghorau Tref a Chymuned. Roedd rhestr o gynlluniau a gyflwynwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned ynghlwm i’r adroddiad a’r cyfanswm oedd £0.123 miliwn a oedd £0.018 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd ar gael. Cynigiwyd y dylid cyfuno cyllid refeniw ar gyfer 2015/16 a 2016/17 mewn un gronfa i gyflawni pob un o'r cynlluniau a fyddai'n golygu bod £0.087 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau arian cyfatebol yn 2017/18.
Roedd y Cyngor wedi dyrannu £0.887 miliwn o arian cyfalaf dros dro i adnewyddu ardaloedd chwarae dros y dair blynedd ariannol nesaf, yn amodol ar gytuno ar y rhaglen gyfalaf ym mis Chwefror. Cynigwyd, yn seiliedig ar angen a chynaliadwyedd, i gyflwyno rhaglen o brosiectau arfaethedig i'r Cabinet ddechrau 2017.
Roedd cyllid un-tro o £0.080 miliwn wedi’i ddarparu i barhau â’r lefel o ddarpariaeth cynllun chwarae a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Ariannwyd y cynlluniau hynny’n rhannol gan y Cyngor Sir ac yn rhannol gan y Cynghorau Tref a Chymuned. Roedd y Cyngor wedi nodi’n glir na fyddai cyllid yn parhau yn 2017/18 ac roedd y Cyngor wedi bod yn gweithio i alluogi cynaliadwyedd y ddarpariaeth heb gyllid. Y canlyniad oedd rhoi cynnig tair wythnos i bob ardal ar wahân i Gei Connah, a oedd â chynllun llawer mwy y gallai Cynghorau Tref a Chymuned ei brynu yn ôl gan y Cyngor. Y cynnig oedd y byddai’r Cyngor yn dyrannu cyllid un-tro o £0.040 miliwn i alluogi gostyngiad yn y costau i Gynghorau Tref a Chymuned o 50% ar gyfartaledd. Er enghraifft, byddai ardal gydag un cynllun chwarae yn cael cynnydd o £409 ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned gan olygu mai cost uchaf darpariaeth cynllun chwarae oedd £1,309. Heb gyfraniad y Cyngor, y cynnydd i Gynghorau Tref a Chymuned fyddai £818.
Cytunwyd y dylid ail-sefydlu Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint ac roedd seminar gychwynnol wedi’i chynnal ym mis Tachwedd 2016. Y camau nesaf fyddai penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd a hyfforddiant ... view the full Cofnodion text for item 127