Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2017/18 – Part 3 Closing Strategy

Cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet (eitem 120)

120 Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2017/18 - Rhan 3 Strategaeth Derfynol pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        I amlinellu Rhan 3 o Strategaeth y Gyllideb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Chynghorydd Shotton adroddiad Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2017/18 - Strategaeth Gloi Rhan 3 a oedd yn cynnig diweddariad ar y swm sy’n weddill i’w ganfod i gyflawni cyllideb gytbwys.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r bwlch a oedd yn weddill oedd £2 filiwn a oedd yn gynnydd bychan ar y ffigwr o £1.9 miliwn a adroddwyd i’r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr.  Y cyfleoedd cyfyngedig a oedd ar gael i gau’r bwlch, a amlinellwyd yn yr adroddiad llawn oedd:

·         Gofal Cartref – Lefelau Ffioedd

·         Trethu Lleol

·         Buddsoddiad mewn Ysgolion

·         Defnydd o Gronfeydd wrth Gefn a Balansau

 

O ran Gofal Cartref, roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gwneud cyhoeddiad yn ddiweddar ar godi’r uchafswm ffioedd o’r swm presennol o £60 yr wythnos i £70 yr wythnos o 1 Ebrill 2017. Byddai’n cynhyrchu incwm ychwanegol o £0.238 miliwn i Sir y Fflint yn 2017/18. Yn ogystal, roedd LlC wedi cyhoeddi fel rhan o’r Setliad, y byddai £10 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi cost gynyddol gofal cartref ar draws Cymru.  Yn seiliedig ar ddosbarthiad y fformiwla dybiedig, dylai’r Cyngor dderbyn cyllid ariannol o oddeutu £0.430 miliwn.

 

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cynnydd o 4% yn ei ardoll, ac o ran Sir y Fflint, gan ystyried newid poblogaeth, roedd hyn yn golygu cynnydd blynyddol o 4.52% (£0.317 miliwm) nad yw wedi’i gynnwys yn y gyllideb.  Un opsiwn oedd ychwanegu’r cynnydd yn yr ardoll i'r cynnydd a fwriadwyd mewn Treth y Cyngor a fyddai'n ei godi o 3.00% i 3.55%.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yna opsiwn i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gynorthwyo i gau’r bwlch yn y gyllideb a fyddai ond yn cynnig datrysiad am un flwyddyn.  Fel rhan o’r opsiynau Stiwardiaeth Ariannol Corfforaethol, roedd swm o £0.699 miliwn eisoes wedi’i glustnodi i ddiwallu costau blwyddyn gyntaf Ardoll Trethi Prentisiaid newydd Llywodraeth y DU.  Roedd angen penderfyniad ar yr hyn a ystyriwyd yn ddefnydd darbodus o gronfeydd wrth gefn gan ystyried cynaliadwyedd y gyllideb yn y dyfodol a'r lefelau cronfeydd wrth gefn a oedd yn parhau am flynyddoedd i ddod.

 

Y risgiau a’r materion oedd yn weddill, a fanylwyd yn llawn yn yr adroddiad, oedd:

·         Grant Amgylchedd Sengl

·         Costau Cludiant

·         Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

·         Incwm Maes Parcio - Neuadd y Sir

·         Effaith Canlyniad 2016/17

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr fod disgwyl i’r cynnydd ym Mhraesept yr Heddlu fod rhwng 3.5/4%.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried mewn cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 20 Ionawr, ac roedd pob Aelod wedi’u gwahodd iddo.  Byddai cynigion terfynol y gyllideb yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 14 Chwefror cyn i'r Cyngor Sir ei ystyried yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid nodi manylion a goblygiadau Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru; ac

 

 (b)      Adolygu’r opsiynau cyfyngedig dros gau’r ‘bwlch’ oedd yn weddill o £2 miliwn, ar gyfer ymgynghori gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.