Mater - cyfarfodydd
Local Planning Guidance Notes to be formally adopted as Supplementary Planning Guidance Notes
Cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet (eitem 123)
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth derfynol ar gyfer 20 o Nodiadau Canllawiau Cynllunio Lleol er mwyn eu mabwysiadu'n ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge Nodiadau Canllawiau Cynllunio Lleol (LPGNs) i gael eu Mabwysiadu’n Ffurfiol fel adroddiad Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth derfynol iddynt gael eu defnyddio i gefnogi polisïau yng Nghynllun Datblygu Unedol (UDP) Sir y Fflint a fabwysiadwyd, i’w ddefnyddio wrth bennu ceisiadau cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell ei fod yn aelod o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio lle y trafodwyd yr LGPNs a rhoddodd groeso yn arbennig i Rhif 23 – Cyfraniadau Datblygwyr tuag at Addysg a fyddai’n helpu darparu ar gyfer gofynion y disgyblion ar sail anghenion.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) mai bendithion y nodiadau canllaw a oedd yn cael eu mabwysiadu, oedd eu bod yn cael rhagor o bwyslais fel ystyriaethau cynllunio o bwys ar benderfyniadau cynllunio defnydd tir nag oedd yn wir yn flaenorol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r nodiadau canllaw fel Canllaw Cynllunio Atodol.