Mater - cyfarfodydd

Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2017/18 & Capital Programme 2017/18

Cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet (eitem 121)

121 Cyllideb Refeniw a Chyfrif Refeniw Tai (CRT) 2017/2018 Drafft pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cyflwyno er cymeradwyaeth y Gyllideb Refeniw a'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2017/2018 Drafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brown Gyllideb Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Drafft 2017/18 a Rhaglen Gyfalaf 2017/18.

 

            Roedd angen i’r HRA gynhyrchu cynllun busnes 30 blynedd yn canolbwyntio ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), addewidion y ddogfen Dewisiadau, arbedion effeithlonrwydd parhaus a wnaed a 200 t? Cyngor newydd yn cael eu hadeiladu.  Roedd y darlun tymor hirach yn dangos cyfrif cryf gyda gwarged incwm dros anghenion gwariant a oedd yn cyflwyno cyfleoedd i wneud rhagor i wella darpariaeth gwasanaeth, darparu sicrwydd y gellid cynnal SATC unwaith y byddai'n cael ei gyflawni, a gallai ddarparu rhagor o gyllid cyfalaf ar gyfer adeiladu o’r newydd.

 

            Roedd cynnydd rhent o 2.5% (tynnu neu ychwanegu hyd at £2) yr wythnos yn cael ei argymell fel yr oedd cynnydd mewn rhenti garejys o £1 yr wythnos a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti plotiau garej.

 

            Roedd £20m wedi’i gynnwys yn y Rhaglen SATC a Buddsoddiad Asedau ar gyfer 2017/18 a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ffrydiau gwaith mewnol, gwaith amlennu allanol, rhaglenni amgylcheddol, gwaith peryglon tân a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, asbestos, gwaith gollyngiadau nwy ac effeithlonrwydd ynni.  Yn ogystal, roedd £7,704 o fenthyca darbodus yng nghyllideb 2017/18 ar gyfer cynlluniau adeiladu tai’r Cyngor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod hon yn flwyddyn dyngedfennol i Sir y Fflint gyda chynnydd ar gynlluniau adeiladu o’r newydd a buddsoddiad yn y stoc tai presennol.  Cytunodd y Cynghorydd Attridge a dywedodd fod ymrwymiad wedi’i gwneud yn 2012 i adeiladu tai Cyngor newydd ac roedd hynny wedi’i wireddu bellach.Roedd angen mawr am y cartrefi ac roedd wedi derbyn canmoliaeth ddyddiol am y cynllun yng Nghei Connah.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ymrwymiad yn y ddogfen Dewisiadau wedi eu hanrhydeddu ond roedd y Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) yn dal i fod yn risg gan nad oedd sicrwydd i’w barhad tymor hir gan nad oedd arian cyfalaf craidd wedi ei sicrhau ar lefel genedlaethol.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Brown sylw ar Safon Sir y Fflint a fod y cynllun adeiladu o’r newydd yng Nghei Connah wedi rhagori ar ddisgwyliadau tenantiaid.

   

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid cymeradwyo’r gyllideb HRA ar gyfer 2017/18 fel yr amlinellir yn y cynllun busnes a’i argymell i’r Cyngor;

 

 (b)      Dylid cymeradwyo cynnydd mewn rhent o 2.5% (tynnu neu ychwanegu hyd ar £2) fel yr amlinellwyd yn y cynllun busnes gyda rhenti targed yn cael eu gosod ar gyfer tenantiaethau newydd;

 

 (c)       Cymeradwyo cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys a’i argymell i’r Cyngor; a

 

 (d)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf HRA arfaethedig ar gyfer 2017/18 fel y nodwyd yn Atodiad D.