Mater - cyfarfodydd
Improvement Plan 2016/17 Outturn Report
Cyfarfod: 11/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 18)
18 Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 PDF 153 KB
Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) yr adroddiad diweddaru arferol i ystyried cynnydd tuag at gyflawni’r effeithiau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar danberfformio sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.
Roedd yr unig faes risg mawr ar leihau llifogydd o ganlyniad i ddiffyg cyllid cenedlaethol i gefnogi cynlluniau. Rhoddwyd diweddariad cryno ar y cynllun yn yr Wyddgrug a oedd yn cael ei rannu’n bedwar rhan i helpu gyda cheisiadau am gyllid.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr unig ddangosydd perfformiad coch o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y rhai sy’n mynd ar gwrs Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr ifanc sydd newydd basio. Mewn perthynas â chamau a gymerwyd i gyflawni canlyniadau, adroddodd yngl?n â chynnydd ar drefniadau cludiant cymunedol yn Kinnerton, gyda phedwar arall i’w cyflwyno dros yr haf.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ar leihau nifer troseddau amgylcheddol a’u heffaith, cytunwyd y byddai dadansoddiad o’r 3,900 o rybuddion cosb benodedig a roddwyd yn cael ei rannu â’r Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog fod y rhan fwyaf am droseddau gollwng sbwriel ac roedd tua 90 yn ymwneud â baw c?n. Pwysleisiodd yr heriau o ran gorfodi mewn perthynas â baw c?n ac fe atgoffodd yr aelodau bod y contract cyfredol gyda'r cwmni gorfodi'n sicrhau dull rhagweithiol o fonitro ardaloedd ehangach ac y byddai’n cael ei adolygu gan y Pwyllgor cyn diwedd y cyfnod treialu.
Wrth groesawu'r ymgysylltiad hwn gyda'r aelodau, dywedodd y Cynghorydd Bibby fod nifer o gwynion wedi’u derbyn yn dweud bod y cwmni gorfodi’n canolbwyntio ar droseddau sbwriel gan fod y rhain yn dargedau haws. Gwnaeth y Cynghorydd Joe Johnson bwynt tebyg ar gael gwared â bonion sigaréts. Dechreuodd hyn drafodaeth ar yr angen am ddarparu mwy o finiau aml-ddefnydd mewn safleoedd bysiau ac y dylid eu gwagu'n rheolaidd.
Pwysleisiodd y Prif Swyddog bwysigrwydd adrodd tystiolaeth yngl?n â mannau problemus o ran baw c?n ac fe ddywedodd fod yr effaith gadarnhaol o orfodaeth ar ollwng sbwriel yng nghanol trefi'n amlwg. Gwnaeth y Cynghorydd Cindy Hinds sylw ar yr angen am fwy o heddweision yng nghanol trefi.
Nododd y Cadeirydd mai baw c?n a thipio anghyfreithlon oedd y ddwy brif gwyn amgylcheddol a gofynnodd i ddiweddariad ar faw c?n gael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Gofynnodd yngl?n â lleoliadau’r rhybuddion cosb benodedig a roddwyd am faw c?n ac fe gytunodd y Prif Swyddog i gynnwys hyn yn y wybodaeth ddadansoddol, ond fe atgoffodd yr aelodau eu bod yn gallu cysylltu â Ruth Cartwright os oeddent yn dymuno gweld manylion y rhaglen waith orfodi ar gyfer eu hardal nhw.
Gwnaeth y Cynghorydd Owen Thomas sylw yngl?n ag amseriad achosion o dipio'n anghyfreithlon yn ei ward ef ac fe'i hanogwyd i roi gwybod am unrhyw wybodaeth. Soniodd eto am yr awgrym blaenorol yngl?n â stampio rhifau cofrestru ceir ar becynnau bwyd brys i leihau'r math hwn o achosion o daflu sbwriel. Ymatebodd y Prif ... view the full Cofnodion text for item 18