Mater - cyfarfodydd
Quarter 4/Year-End Improvement Plan Monitoring Report 2016/17
Cyfarfod: 28/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 9)
9 Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 PDF 159 KB
Pwrpas: Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad ar Adroddiad Alldro Cynllun Gwella 2016/17 i ystyried y cynnydd tuag at gyflawni’r effeithiau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tanberfformio perthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.
Gofynnodd Mr David Hytch a oedd problem o ran recriwtio staff addysgu mewn ysgolion. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod ysgolion yn Sir y Fflint wedi gallu recriwtio i swyddi arweinyddiaeth heb anhawster, ond y bu gostyngiad yn nifer y ceisiadau sy’n dod i law. Dywedodd fod pryder cyffredinol yngl?n â cheisiadau am uwch swyddi arweinyddiaeth mewn ysgolion.
Cyfeiriodd Mr David Hytch at dudalen 86 o’r adroddiad, a’r strategaeth o ran atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau ysgol. Mynegodd bryder nad oes gan yr Awdurdod y capasiti ariannol i fynd i’r afael â’r mater yn llawn. Cydnabu’r Prif Swyddog Dros Dro ei bod yn sefyllfa heriol a’i bod yn cael ei rheoli gystal â phosibl gyda’r adnoddau sydd ar gael. Eglurodd fod matrics manwl yn gefn i’r gwaith o atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau ysgol.
Ceisiodd y Cynghorydd David Williams eglurhad yngl?n â’r cymorth i’r Gwasanaeth Ieuenctid, llesiant ac iechyd, ac addysg oedolion. Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro sicrwydd fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn rhan o bortffolio’r Gwasanaeth a dywedodd fod y Strategaeth Gwella Addysg yn gynllun mwy manwl sy’n gyrru busnes y Gwasanaeth o ddydd i ddydd. Cynigiodd ddarparu rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Ieuenctid i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau a chyfeiriasant at y cymwysterau, yr hyfforddiant a’r llwybrau a ddarperir i bobl ifanc drwy’r fframwaith achredu yn y Gwasanaeth Ieuenctid. Wrth ymateb i gwestiynau pellach am addysg oedolion, eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant fod y grant ar gyfer dysgu oedolion yn isel ond fod gwaith ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru (LlC) i adolygu’r grant, a gyda Choleg Cambria a Dysgu Oedolion Cymru yngl?n â’r ddarpariaeth addysg oedolion.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin am y canlyniadau Cymraeg yn CA2 a’r Cyfnod Sylfaen, eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro fod y garfan Gymraeg yn ysgolion cynradd Sir y Fflint yn fach a bod y data’n gallu amrywio. Cyfeiriodd at y cymorth pwrpasol sy’n cael ei ddarparu gan Dîm Ymgynghorol Cymraeg yr Awdurdod a’r Gwasanaeth Rhanbarthol.
Ymatebodd y Prif Swyddog Dros Dro i’r sylwadau ac i bryderon Mr. Hytch yngl?n â pherfformiad a gosod targedau ac eglurodd y fethodoleg gosod targedau rhwng yr Awdurdod a’r Gwasanaeth Rhanbarthol.
PENDERFYNWYD
Bod y Pwyllgor yn croesawu adroddiad monitro alldro Cynllun Gwella 2016/17 a llongyfarchodd y Gwasanaeth ar ei gyflawniadau.