Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2016/17 (month 8)

Cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet (eitem 124)

124 Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 8) pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf i Aelodau ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn yn seiliedig ar y wybodaeth fwyaf diweddar sydd ar gael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 8) a oedd yn cynnig y sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol.  Roedd yr adroddiad yn rhoi amcanestyniad o beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiweddglo'r flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

                        Y sefyllfa diwedd blwyddyn a amcanestynnwyd, heb unrhyw gamau pellach i leihau pwysau o ran costau neu i nodi arbedion effeithlonrwydd newydd, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

  • Roedd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £1.810 miliwn - cynnydd yn y diffyg o £0.039 miliwn ers Mis 7
  • Roedd y sefyllfa gyffredinol a amcanestynnwyd yn ystod y flwyddyn wedi gwella o £2.886 miliwn yn sgil y newid yn y polisi cyfrifo ar gyfer MRP fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Effaith hyn oedd dileu’r diffyg gweithredol
  • Balans cronfa hapddigwyddiad a ancanestynnwyd o £4.268 miliwn

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelid y bydd gwarian net yn ystod y flwyddyn £0.037 miliwn yn uwch na’r gyllideb
  • Y balans cloi a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2017 yw £1.061 miliwn

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ddiweddar, lle holwyd cwestiynau am liniaru risgiau yn y dyfodol.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod trafodaeth wedi’i chynnal ar y diffyg gweithredol o £1.810 miliwn yn ystod y flwyddyn ac eglurodd bod cryn dipyn o waith wedi’i wneud i sicrhau nad yw’r risgiau hynny yn codi eto o 1 Ebrill 2017.

 

O ran costau Cludiant, wedi i un o’r darparwyr cludiant gael ei ddiddymu, cynigiodd Llywodraeth Cymru (LlC) ddyfarniad grant dros dro i’r tri awdurdod lleol a effeithiwyd ar gyfer 2016/17. Roedd trafodaethau’n parhau o ran dosbarthu’r grant a dylai’r wybodaeth fod ar gael i’w chynnwys yn yr adroddiad cyllideb ar gyfer mis 9 

 

O ran y lleoedd gwag mewn gwaith cymdeithasol a amlinellwyd yn yr adroddiad, holodd y Cynghorydd Bithell a oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i recriwtio o siroedd eraill fel yn y gorffennol pan roedd yr Awdurdod wedi recriwtio gweithwyr cymdeithasol o Ganada.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd hyn yn cael ei wneud yn ymarferol.  Gwnaeth sylw ar y maes gwaith ac unrhyw gyfnodau brig o ran galw, a'r ffordd orau o sicrhau cyflenwad ar unwaith oedd drwy asiantaethau.

 

Roedd yr adroddiad yn trafod symudiadau arwyddocaol yn y gyllideb; y rhaglen effeithlonrwydd; chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau; trosolwg o’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

PENDERFYNWYD:                                                                

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a nodi’r swm hapddigwyddiad a amcanestynnwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth, ac mae gwaith ar weithredoedd ac opsiynau ar gyfer gweithredoedd lliniaru yn dal i gael cefnogaeth; a

 

 (b)      Dylid nodi'r lefel terfynol o falensau a amcanestynnwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.