Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 11/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 19)
19 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Raglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried ac fe awgrymodd y newidiadau canlynol:
· Ychwanegu Cynllun y Cyngor at yr eitemau ar gyfer mis Medi 2017.
· Ychwanegu amddiffynfeydd llifogydd at yr eitemau ar gyfer mis Hydref 2017.
· Ychwanegu diweddariad ar Ddyffryn Maes Glas i’r eitemau ar gyfer mis Rhagfyr 2017 ynghyd â’r Polisi Lladd Gwair a sesiwn wybodaeth ar ddiogelwch bwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.