Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 13/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 14)
14 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunwyd ar y camau gweithredu canlynol:
· Cynllun y Cyngor 2017-23 i’w gynnwys ar gyfer mis Medi 2017.
· Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Diwygio Etholiadol (wedi’i drefnu ar gyfer mis Medi 2017) i fod i ddechrau ar ddiwedd y mis.
· Y Rheolwr Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol i’w wahodd ym mis Medi 2017 i gyflwyno ei adroddiad blynyddol.
· Roedd cynrychiolydd o'r Awdurdod Tân ac Achub wedi'i wahodd i ddod ym mis Tachwedd 2017 ar gyfer yr eitem ymgynghori ar gyllideb.
· Er nad oedd ar gael ar gyfer y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2017, bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael ei wahodd ar ddyddiad arall fel rhan o'r trefniant blynyddol gyda'r Pwyllgor.
· Anogwyd aelodau o’r Pwyllgor i fynychu’r gweithdy ‘Cysoni Dulliau o Gyflawni Newid'.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda newidiadau; a
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.