Mater - cyfarfodydd
Leisure and Libraries Alternative Delivery Model Review
Cyfarfod: 25/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 20)
Adolygu Model Darpariaeth Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd
Pwrpas: Adolygu trefniadau sefydlu Aura Leisure and Libraries Ltd a dechreuodd redeg gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a threftadaeth y Cyngor o 1 Medi 2017
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (20/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (20/3)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad Adolygu’r Model Darparu Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd a oedd yn adolygu trefniadau sefydlu Aura Leisure and Libraries Ltd a ddechreuodd weithredu Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth y Cyngor o 1 Medi 2017.
Dyma rai o atodiadau’r adroddiad:
· Yr adroddiad grymoedd dirprwyedig terfynol wedi’i lofnodi i gymeradwyo sefydlu;
· Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint ac Aura Leisure and Libraries Ltd.; a
· Y Cytundeb Ariannu rhwng Cyngor Sir y Fflint ac Aura Leisure and Libraries Ltd.
Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Aura yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau a diolchodd i’r Pwyllgor am y gwahoddiad i’r cyfarfod. Dywedodd fod llawer o waith wedi ei wneud a chyfeiriodd at y berthynas gefnogol a phositif gyda’r Cyngor.
Croesawodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad a dywedodd ei fod yn esiampl dda o bartneriaeth bositif.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod y strwythur hwn yn rhoi mwy o sicrwydd i lyfrgelloedd llai o faint.
PENDERFYNWYD:
Nodi a chefnogi’r gwaith oedd wedi ei wneud i sefydlu Model Cyflenwi Amgen (MCA) yn y Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth.