Manylion y penderfyniad
Audit Wales - North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board – Commissioning Older People’s Care Home Placements
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the report and recommendations.
.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu’r adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd fod adroddiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud pum argymhelliad (fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.10 yr adroddiad). Gan ymateb i'r adroddiad, gofynnwyd i bob un o Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd baratoi ymateb rheoli cyfunol y cytunwyd arno yn manylu ar sut y byddent yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â phob un o'r argymhellion. Gofynnodd Archwilio Cymru i’r ymateb cyfunol hwn gael ei gyflwyno erbyn 31 Ionawr 2022. Roedd Ymateb y Rheolwyr a gyflwynwyd ynghlwm fel Atodiad 3 i'r adroddiad.
Gan ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd ynghylch cymhlethdod y trefniadau cyllid ar gyfer cartrefi gofal, dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod taflen wedi'i chynhyrchu a'i bod ar gael ar wefan yr Awdurdod a oedd yn egluro'n glir y cyfraniad y mae unigolion yn ei wneud at gost eu gofal cartref neu breswyl.
Dywedodd y Cynghorydd David Mackie ei fod yn teimlo bod angen craffu ar ddarpariaeth cartrefi gofal ar draws Gogledd Cymru yn ogystal ag yn lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mel Buckley.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r argymhellion yn adroddiad Archwilio Cymru ar
Gomisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
(b) Cytuno ar y camau gweithredu yn Ymateb y Rheolwyr i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn; a
(c) Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar weithrediad y camau gweithredu yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 15/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 28/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol:
- Audit Wales - North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board – Commissioning Older People’s Care Home Placements PDF 121 KB
- Enc. 1 for Audit Wales - North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board – Commissioning Older People’s Care Home Placements PDF 831 KB
- Enc. 2 for Audit Wales - North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board – Commissioning Older People’s Care Home Placements PDF 1 MB
- Enc. 3 for Audit Wales - North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board – Commissioning Older People’s Care Home Placements PDF 177 KB
- Enc. 4 for Audit Wales - North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board – Commissioning Older People’s Care Home Placements PDF 845 KB