Manylion y penderfyniad

Council Tax setting for 2022/23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To set the Council Tax charges for 2022-23 as part of the Councils wider budget strategy.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw yr adroddiad i osod taliadau Treth Cyngor yn ffurfiol a phenderfyniadau statudol cysylltiedig ar gyfer 2022/23 fel rhan o'r strategaeth gyllideb ehangach ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol.  Gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo parhad y cynllun Premiwm Treth Cyngor a'r arfer i swyddogion dynodedig arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.

 

Fel y crybwyllwyd yn yr eitem flaenorol, mae tri phraesept ar wahân yn pennu lefel gyffredinol taliadau’r Dreth Gyngor yn erbyn pob eiddo.  Roedd y cynnydd o 3.95% yn elfen y Cyngor yn bodloni disgwyliadau fforddiadwyedd a byddai, ynghyd â chyllid y llywodraeth ganolog a Grant Cymorth Refeniw, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a chynnal lefel a chymhlethdod y galw am wasanaethau.  Roedd y swm cyffredinol a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir sef £94,503,918; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef £20,653,459; a'r praesept cyfunol sef £3,195,763 ar draws 34 Cyngor Tref a Chymuned.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am gyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu).  Cyfeiriodd at yr Aelodau a oedd wedi pleidleisio yn erbyn y cynnydd yn nhreth y Cyngor fel rhan o'r argymhellion yn yr eitem flaenorol a gofynnodd a fyddai eu pleidlais yn cario drosodd ar gyfer yr eitem hon.  Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai Aelodau gadw eu pleidlais, ac felly os oedd Aelod wedi pleidleisio o blaid y cynnig yn yr eitem flaenorol, fe fydden nhw'n pleidleisio yn erbyn yr argymhellion yn yr adroddiad. 

 

Nododd y Cynghorydd Marion Bateman ei bod am newid ei phleidlais ac felly y byddai nawr yn pleidleisio dros y cynnig. 

 

Ar ôl cael eu cynnig a’u heilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Treth Cyngor 2022-23 yn cael ei gosod fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad;

 

(b)       Bod parhau â'r polisi o beidio â darparu gostyngiad yn lefel taliadau Tâl Treth Cyngor 2022/23 ar gyfer ail gartrefi a thai gwag hirdymor yn cael ei gymeradwyo.  Hefyd, lle nad yw eithriadau yn berthnasol, i godi cyfradd Premiwm Treth Cyngor sef 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau sy'n wag yn yr hir dymor; a

 

(c)       Rhoi cymeradwyaeth i swyddogion dynodedig gyflwyno achosion cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn y Llys Ynadon am drethi sydd heb eu talu.

Awdur yr adroddiad: David Barnes

Dyddiad cyhoeddi: 09/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: